Celt-conference-walkshop

CELT: Canolfan Gwella Addysgu a Dysgu

Cefnogi rhagoriaeth addysgu ac arloesi ar draws Prifysgol Bangor

Gwella Eich Addysgu

Mae cael cymheiriaid yn arsylwi ar eich arferion addysgu neu gymorth dysgu yn eich galluogi i ddatblygu trwy hunanfyfyrio, rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a nodi meysydd sydd angen cymorth. 

Crëwyd y cynllun i alluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar arferion Addysgu a Dysgu gan gyfeirio at Gôd Ansawdd Addysg Uwch ASA a Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu a Chefnogi Dysgu mewn Addysg Uwch (UKPSF).

Mae Cynllun Cefnogi Cydweithwyr Bangor yn agored i bob aelod o staff sy’n addysgu a/neu’n cefnogi dysgu. Disgwylir y bydd yr holl staff academaidd sydd â rôl addysgu yn cymryd rhan yn y cynllun unwaith bob blwyddyn academaidd fel rhan o ddeuawd neu driawd arsylwi cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys darlithwyr rhan amser ac ymarferwyr proffesiynol sy’n cyfrannu’n rheolaidd at addysgu. Bydd myfyrwyr ôl-raddedig sy’n addysgu yn cael eu harsylwi fel rhan o’u gofyniad i ymgymryd â hyfforddiant Ysgol-benodol neu’r Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCertTHE). Ni fydd yn ofynnol i siaradwyr allanol gymryd rhan yn y cynllun llawn, ond os oes rhai sydd yn cyfrannu’n gylchol fesul blwyddyn academaidd, dylai arweinwyr modiwl o leiaf fynychu sesiwn a rhoi adborth llafar.

I gymryd rhan yn y broses Arsylwi Cymheiriaid a lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol, ewch i dudalen FyMangor.

Mae Advance HE yn cynnwys arbenigwyr Addysg Uwch sy'n cydweithio i godi safonau yn y sector a gwneud addysgu a dysgu yn fwy cynhwysol i bawb. 
Mae gan Advance HE dri nod strategol: 

  • cynyddu hyder ac ymddiriedaeth mewn Addysg Uwch
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig yn y sector i ddiwallu anghenion esblygol
  • cefnogi aelodau trwy ei waith ar addysgu a dysgu, llywodraethu, datblygu arweinyddiaeth a chynhwysiant

Gall Advance HE eich helpu drwy gefnogi eich ymarfer addysgu a chynnig arweiniad ar lywodraethu, datblygu arweinyddiaeth ac amrywiaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyrsiau datblygu a hyfforddiant sydd ar y gweill ar wefan Advance HE, yn ogystal ag adnoddau addysgiadol a manylion gwobrau. 

Daeth dros ddau gant o wasanaethau academaidd a phroffesiynol ynghyd ar gyfer Cynhadledd CELT 2023 i rannu arbenigedd addysgu a dysgu. Lawrlwythwch raglen Cynhadledd CELT 2023 yma.

Manylion am ein cynhadledd nesaf ar gael yn fuan.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?