“Dechreuais ym Mhrifysgol Bangor yn 2007, yn ffres o dref glan môr Scarborough yng ngogledd Swydd Efrog, ac roeddwn yn byw yn neuadd breswyl Cefn y Coed. Cyrhaeddais Bangor ar ddiwrnod heulog ym mis Medi ar ôl taith hir trwy ogledd Lloegr.
Astudiais Seicoleg gyda Niwroseicoleg, gan raddio gyda gradd 2:1 yn 2010. Roeddwn wrth fy modd â'r cwrs, yn enwedig y modiwl seicoleg esblygiadol, a'r bobl anhygoel y gwnes i gyfarfod â nhw. Fe wnaeth y sesiynau Ymarfer Sgiliau Cyflwyno Llafar Seicoleg bob wythnos, neu POPS fel yr oeddem yn eu galw, helpu i mi adeiladu fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus. Roedd ymrafael â'r meddalwedd newydd yn Mac Lab bob amser yn arwain at ryw fath o broblem neu anffawd dechnolegol. Treuliais lawer noson hwyr yn fy neuadd breswyl yn adolygu y noson cyn arholiad, neu’n cyflwyno traethawd cyn y dyddiad cau, ac roedd y cyfnod hwnnw’n llawn byrbrydau a brwdfrydedd ieuenctid.
Roedd y bywyd nos bob amser yn ddiddorol, ac roedd fel arfer rhyw fath o thema gwisg ffansi. Casglais amrywiaeth o wisgoedd ffansi - fel arfer yn cynnwys dilledyn fflwroleuol neu ddau - ac ar un achlysur fe wnes i hyd yn oed sefyll arholiad y diwrnod ar ôl parti Calan Gaeaf pan oedd fy ngwallt yn dal wedi’i ôl-gribo a'i liwio'n binc ac roedd gen i goblyn o ben mawr (dydw i ddim yn argymell hyn!) Opsiwn arall a ddefnyddiwyd yn aml oedd creu gwisg allan o fagiau bin, un o hoff wisgoedd ffansi myfyrwyr oedd yn ceisio arbed arian. Roedd bagiau bin lliw a bagiau persawrus yn hwyl ac yn fywiog, tra bod bagiau du trwm yn creu edrychiad ychydig yn fwy clasurol ac urddasol.
Yn yr ail flwyddyn roeddwn yn byw mewn tŷ ger y pier gydag wyth ffrind, chwe merch a thri bachgen. Roedd y dewisiadau gwisg yn ddiddiwedd, a gwnaethom dreulio lawer brynhawn yn cerdded ar hyd y pier am sgons, neu'n cynllunio'r noson allan nesaf.
Yn y drydedd flwyddyn symudais i dŷ llai yng Nghaellepa gyda thri ffrind, ac er bod llai o wardrobau i fenthyg dillad ohonynt, cawsom gystal hwyl ag erioed. O farbeciws ar Fynydd Bangor yn edrych dros y ddinas hardd, i nosweithiau clyd yn chwarae Singstar ar y PlayStation, neu gerdded yn chwyslyd i fyny’r allt at Brif Adeilad y Celfyddydau i’n darlithoedd, cawsom amser anhygoel. Yn ogystal â hynny, daeth Penwythnos Mawr Radio 1 i Fangor yn ystod fy nhrydedd flwyddyn. Fe wnaethom lwyddo i gael tocynnau, a gweld Florence and the Machine yn arwain y perfformiadau, yn ogystal â Dizzy Rascal, Scouting for Girls, Alicia Keys a Cheryl Cole.
Ar ôl bod yn y brifysgol, bûm yn gweithio ac yn teithio yn Awstralia am ddwy flynedd, a threuliais flwyddyn yn teithio trwy dde-ddwyrain Asia. Ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, treuliais nifer o flynyddoedd yn gweithio i Heddlu Manceinion yn ateb galwadau brys - swydd roeddwn wedi breuddwydio amdani ers i mi syrthio mewn cariad â’r gyfres deledu "999 What's Your Emergency?" yn y 90au.
Ymunais â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn 2018, lle rwyf wedi treulio’r pum mlynedd ddiwethaf yn gweithio i ddiogelu a chynnal hawliau gwybodaeth aelodau’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig. Yn 2022, bûm yn gwneud gwaith cudd-wybodaeth yn ymwneud â gwyliadwriaeth a data biometrig, gwaith a oedd yn hanfodol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wrth iddynt weithredu’r Cod Plant. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel uwch swyddog polisi yn y maes rheoleiddio digidol, yn cydlynu gwaith rhwng Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r Fforwm Cydweithredu Rheoleiddio Digidol.
O ran fy mywyd personol, rwy'n byw mewn tref yn Swydd Gaer gyda fy mhartner o 9 mlynedd a'n mab pedair oed. Rydw i wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu, cerdded, rhedeg a mynd i’r gampfa, garddio, a gwylio Netflix.
O ran fy nghyd-letywyr.... Mae Alex bellach yn gynorthwyydd milfeddygol - ei swydd ddelfrydol, sydd yn wahanol iawn i’w gradd mewn Saesneg! Aeth Kelly ymlaen i wneud gradd meistr yn Abertawe a PhD yn Southampton, ac mae bellach yn seicolegydd clinigol yn arbenigo mewn cleifion ag anhwylderau niwrolegol swyddogaethol. Gwnaeth MD radd meistr mewn seicoleg alwedigaethol ym Mhrifysgol Llundain, ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Project Llwyddiant Cwsmer yn Great Places to Work. Cafodd Christina brofiad mewn recriwtio ac mae bellach yn Rheolwr Marchnata Byd-eang ar gyfer CSG Talent.
Mae 14 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi raddio, ac mae gennyf atgofion melys iawn o’m hamser ym Mangor. Rwy'n dragwyddol ddiolchgar am y ffrindiau anhygoel wnes i a'r profiadau a gefais tra bûm yn astudio yno, ac edrychaf ymlaen at ymweld eto yn y dyfodol a dangos i fy mab i ble aeth ei fam i "ysgol oedolion." "