“Doedd mynd yn ôl i’r brifysgol yn 32 ddim yn ddewis hawdd, ond roedd dewis Bangor yn bendant y penderfyniad cywir."
"O fynd yn ôl deng mlynedd, roeddwn yn fy 20au ac yn teithio’r byd. Fel Daearegwr, roeddwn yn gweithio fel ymgynghorydd i brojectau mwyngloddio ac isadeiledd, yn hedfan o gwmpas y byd i oruchwylio pentyrrau enfawr o greigiau a gwneud profion arnynt.
Pan darodd COVID teimlais fy mod wedi cael llond bol o weithio mewn daeareg a phenderfynais wneud yr un peth roeddwn bob amser wedi bod eisiau rhoi cynnig arno: gweithio gyda phlant! Penderfynais newid cyfeiriad o fod yn arbenigwr mewn daeareg i fod yn athro gwyddoniaeth.
Digwydd imi ddod ar draws Bangor wrth bori trwy UCAS a gwneud cais ar unwaith am fod byw ar riniog Eryri yn gymaint o demtasiwn. Fel mae'n digwydd, Bangor yw’r unig goleg yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig yr opsiwn deuol o gyfuno unrhyw bwnc ag Addysg Awyr Agored ar gwrs TAR: felly dyna’i hoelio hi.
I fod yn gwbl onest, roedd y cwrs TAR mewn Ffiseg gydag Addysg Awyr Agored yn gwrs caled ond yn un hynod werth chweil. Fe ges i weithio gyda phlant yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi, gan eu cymell i fagu asgwrn cefn yn yr awyr agored a’u hysbrydoli am y cosmos yn yr ystafell ddosbarth.
Fe wnes i'r gorau o fywyd prifysgol hefyd. Ymunais â’r clwb Taekwondo, chwarae badminton a phêl law, a chystadlu’n rhedeg rasys mynydd, ac fe wnes i hyd yn oed ddod o hyd i’r amser i gerdded o gwmpas Ynys Môn ar y llwybr arfordirol.
Dyfarnwyd fy nghymhwyster TAR ym mis Gorffennaf 2022, ond cyn gwisgo fy het athro am weddill fy ngyrfa, penderfynais ymateb i her entrepreneuraidd ffrind imi ac fe wnaethon ni’n dau ymgymryd â’r gwaith o greu AquaSwitch: y wefan orau yn y Deyrnas Unedig i fusnesau gymharu prisiau cyfleustodau.
Rhoddodd hyfforddi fel athro nid yn unig y sgiliau imi ar gyfer addysgu, gwnaeth hefyd wella fy sgiliau cyfathrebu a rheoli’n aruthrol, sy'n berffaith ar gyfer maes entrepreneuriaeth. Rwy'n llawer mwy amyneddgar nac yr arferwn fod, ac er mawr syndod imi, mae cymaint o oedolion yn dal i ymddwyn fel plant!
Felly i unrhyw un yn eu 30au sydd eisiau newid cwrs eu bywyd, Bangor yn bendant yw’r lle i ddod!”
So for anyone in their 30s wanting a change, Bangor is definitely a place to be!”