Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Bydd AC yn archwilio a dadansoddi egwyddorion y cwricwlwm gwyddoniaeth newydd gan eu galluogi i ddod yn ymarferwyr effeithiol sydd â dealltwriaeth gadarn o addysgeg yn seiliedig ar theori. Byddant yn cael cyfleoedd i fyfyrio'n feirniadol ar oblygiadau adroddiadau diweddar i safonau addysg wyddoniaeth yng Nghymru a deall pwysigrwydd ymarfer ar sail tystiolaeth mewn gwyddoniaeth.
Bydd AC yn astudio ac yn gwerthuso'n feirniadol ystod eang o addysgeg gwyddoniaeth mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg, gan eu galluogi i ddarparu profiadau dysgu effeithiol mewn ystod o gyd-destunau addysgol. Bydd yr AC yn cael y wybodaeth a'r sgiliau i ddatblygu gallu dysgwyr i feddwl trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau ac addysgu deialogaidd, ac i ddeall mater allweddol asesu dealltwriaeth dysgwyr o fodelau cysyniadol a fframweithiau eraill wrth sicrhau dilyniant effeithiol mewn dysgu.
Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Ffiseg (Cyfrwng Saesneg) 3F4W.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd yr AC yn cael eu hyfforddi i ddod yn rheolwyr dysgu effeithiol yn y labordy, i ddeall swyddogaeth allweddol gweithgareddau ymarferol ac ymchwiliol mewn Gwyddoniaeth ac i allu rheoli'r gweithgareddau yn ddiogel. Bydd yr AC yn dadansoddi'r damcaniaethau sy'n sail i ystod o arferion asesu ffurfiannol a chrynodol a byddant yn gallu eu defnyddio'n effeithiol i hwyluso cynnydd dysgwyr ac i roi gwybod i rieni, cydweithwyr ac asiantaethau allanol. Bydd yr AC Gwyddoniaeth yn gallu deall eu swyddogaeth wrth gyfrannu at gwricwlwm cynhwysol, eang a chytbwys, y cysylltiadau rhwng Gwyddoniaeth a Meysydd Dysgu eraill (yn enwedig Mathemateg a Thechnoleg), datblygiad sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a TG (DC) dysgwyr a'u gallu i ddefnyddio'r Gymraeg mewn Gwyddoniaeth.
Bydd yr AC hefyd yn deall pwysigrwydd cyflwyno cwricwlwm Gwyddoniaeth sy'n berthnasol i ddiddordeb a buddiannau'r holl ddisgyblion, ac wedi'i wreiddio yng nghyd-destun diwylliannol, economaidd a hanesyddol Cymru. Bydd yr AC yn dod i werthfawrogi cyfraniad allweddol Gwyddoniaeth o ran sicrhau iechyd a lles dysgwyr yn ogystal â'u galluogi i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus Cymru.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau TAR Uwchradd - Ffiseg (Cyfrwng Saesneg).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
- Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol. Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth. O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth. Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.
Cysylltiadau â diwydiant:
Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.