"Byddaf pob amser yn trysori fy amser ym Mhrifysgol Bangor"
"Graddiais yn 2020 o Fangor gyda PhD wedi'i chyllido’n llawn mewn Seicoleg (Niwrowyddoniaeth Wybyddol). Cefnogodd Prifysgol Bangor fy ymchwil doethurol yn yr Adran Seicoleg a rhoi’r sgiliau diweddaraf i mi mewn niwrowyddoniaeth, gwyddor ymddygiadol ac ymchwil arbrofol. Ym Mangor roeddwn yn ffodus i fod yn rhan o gymuned academaidd fywiog, a wnaeth uwchraddio fy sgiliau mewn ymchwil gweithredol a chyfathrebu gwyddonol. Roeddwn yn Hyfforddwr Cyfathrebu Gwyddonol am ddwy flynedd i fyfyrwyr israddedig Seicoleg ac yn gynorthwyydd addysgu Seicoleg Iaith i fyfyrwyr Meistr. Roeddwn hefyd yn ymchwilydd mewn dau labordy gwyddonol ynghyd â fy ymgynghorwyr, Dr Gary Oppenheim a'r Athro Guillaume Thierry.
Ym Mangor cefais fy nhrawsnewid yn llwyr fel gwyddonydd a darlithydd a dysgais rai o'r sgiliau ymchwil pwysicaf, oherwydd cefais gefnogaeth enfawr gan fy ymgynghorwyr a'r adran.
Ar ôl cwblhau fy PhD, penderfynais newid i’r diwydiant Deallusrwydd Artiffisial yn ôl yn fy mamwlad sef gwlad Groeg a thrawsnewid fy sgiliau ymchwil a gwyddonol i set sgiliau sy’n canolbwyntio ar fusnes. Roeddwn hefyd yn frwd dros geisio cyfleu gwerthoedd amrywiaeth wyddonol a rhyngddisgyblaethol yn ôl i wlad Groeg ac yn 2021 sefydlais ymgyrch ddigidol, o’r enw Greek Girls Code, gyda’r nod o helpu i ysbrydoli rhagor o ferched yng Ngwlad Groeg i ennill sgiliau digidol a STEM.
Yn ddiweddar derbyniais wobr Gweithredu Cymdeithasol 2023 gan y Cyngor Prydeinig a Llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig yng Ngwlad Groeg ac roeddwn wrth fy modd i dderbyn neges yn fy llongyfarch gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor ar ran y brifysgol yn ystod y seremoni.
Byddaf bob amser yn trysori fy amser a’m profiadau ym Mhrifysgol Bangor, y bobl anhygoel y gwnes i eu cyfarfod yno, harddwch naturiol gogledd Cymru a’r wyddoniaeth agored ac amrywiol a ddysgais yno."