Fy mhedair blynedd ym Mangor oedd pedair blynedd orau fy mywyd addysgol
“Ble gallaf ddechrau? Fy mhedair blynedd ym Mangor oedd pedair blynedd orau fy mywyd addysgol. Y brifysgol oedd un o'r rhesymau mwyaf am hyn, nid yn unig yr aelodau staff ond y cwrs a'r pobl y bu i mi eu cyfarfod yn ystod fy nghyfnod yno, a ddechreuodd fel ffrindiau ond a ddaeth fel aelodau teulu i mi yn raddol. Roedd byw 140 milltir i ffwrdd o gartref yn rhywbeth nad oeddwn yn disgwyl ei wneud ond roedd yn rhywbeth roeddwn yn llawn cyffro yn ei gylch. Er fy mod wedi cael amryw llanw a thrai yn ystod fy mhedair blynedd, ni fyddwn yn newid munud ohono. Roedd yn her ac yn brawf roeddwn yn barod i'w wynebu er mwyn cyflawni'r hyn a wnes i. Roedd Bangor yn lle gallwn deimlo'n rhydd ynddo, dysgu bod yn annibynnol a gwneud beth bynnag y gallwn i ymdopi. Roedd gennyf 3 swydd wahanol, a ganiataodd imi gyflawni fy mreuddwyd o deithio wrth astudio. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi gallu teithio i 10 gwlad mewn tair blynedd ac roedd y cyfan yn bosib trwy fy ymdrechion fy hun. Rhoddodd y gefnogaeth a gefais gan aelodau staff a darlithwyr yr hyder i mi orffen yr hyn a ddechreuais a graddio ar 16 Gorffennaf 2019. Rhoddodd dinas Bangor gyfle i mi wneud ymarfer corff, rhoddodd y brifysgol gyfle i mi wneud y chwaraeon roeddwn eisiau eu gwneud: paffio, rygbi, badminton.
Roedd Bangor yn rhywle roeddwn yn teimlo'n ddiogel ac i mi, roedd yn gartref oddi cartref ac yn deulu i mi oddi wrth fy nheulu. Rhoddodd Bangor gyfle, dewrder, rhyddid ac angerdd imi ymdrechu a llwyddiant sy'n fythgofiadwy. Dysgodd Bangor i mi pwy ydw i a beth rydw i ei eisiau. Cefais y cyfle i archwilio, bod yn greadigol a symud ymlaen tuag at gyflawni fy uchelgeisiau.
Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio tuag at gymhwyster TAR mewn seicoleg yn Manchester Metropolitan University, sector rwy'n angerddol amdano ac un a fydd yn fy helpu i gyflawni fy nod terfynol, sef cael fy sefydliad fy hun, a darparu addysg a chefnogaeth i rai sy'n llai ffodus ac agored i niwed mewn gwledydd sy'n datblygu.
Byddai dod yn ôl i Fangor rhywbryd, naill ai i weithio, rhoi sgyrsiau ac ysbrydoli myfyrwyr eraill yn rhywbeth yr hoffwn ei wneud.
Rwyf eisiau diolch i Brifysgol Bangor, y staff a'm darlithwyr am wneud yr amhosibl yn bosibl a chaniatáu imi ddatblygu fy astudiaethau a dod 10 cam yn nes at gyflawni fy mreuddwydion.”