
"Roedd y blynyddoedd a dreuliais ym Mangor yn drawsnewidiol, ac yn gatalydd ar gyfer trawsnewid pellach. Daeth y gwahanol elfennau niwlog o'r hyn a oedd yn fy ngwneud yn fi at ei gilydd yn gyfanwaith a oedd yn hynod wahanol i'r hyn yr oeddwn o'r blaen.
Er mor ddramatig ag y mae'n swnio, dyna yw pŵer annibyniaeth, teulu dewisol, ac amgylchedd meithringar sy’n derbyn eich holl ryfeddodau a'ch arlliwiau. Cyn mynd i’r brifysgol, roedd fy mywyd academaidd yn llawn anhapusrwydd a anwyd o holl ystrydebau arferol yr ysgol uwchradd, a cheisio canfod fy hun wrth brofi teimladau cyson o beidio â ffitio yn unlle.
Yr hyn sy’n hyfryd am y brifysgol, ac yn enwedig Prifysgol Bangor, yw bod amrywiaeth yn elfen ddiffiniol. Mae pobl o bob rhan o'r byd yn dod ynghyd trwy gariad at ddysgu a chariad at Fangor ei hun. Nid ydych yn cael eich gorfodi i mewn i le a ddiffinnir gan ardal leol yn unig, lle mae ffitio i mewn yn dod yn frwydr barhaus, ac yn frwydr y mae pawb yn ei hwynebu.
Wrth edrych yn ôl nawr, rwy’n meddwl y daeth popeth i’w le ar ôl ychydig wythnosau yn fy mlwyddyn gyntaf, wrth yfed paned a disgwyl i'r sychwr dillad orffen. Ar fy mhen fy hun. Yn edrych ar y mynyddoedd dan orchudd eira yn y pellter. Teimlad o heddwch, ond hefyd – am y tro cyntaf yn fy marn i – yr ymdeimlad o fod ar y trywydd iawn. Cododd y momentwm o hynny, a magais hyder. Datblygodd fy ngrŵp ffrindiau o'm cwmpas - system gefnogaeth gref. Daeth Bangor yn rhyw fath o noddfa, swigen ddiamser bron, lle gallwn fod yn fi fy hun a dilyn fy niddordebau heb feirniadaeth. Roedd pob un o’m darlithwyr, athrawon a thiwtoriaid yn groesawgar ac yn fy annog yn gyson i gyflawni fy mhotensial. Roedd y darlithoedd yn ddifyr, hyd yn oed y rhai am 9am, a phwy all ddweud unrhyw beth negyddol am Neuadd PJ a Phrif Adeilad y Celfyddydau?
Un maes nad oeddwn yn disgwyl iddo chwarae rhan mor enfawr yn fy mywyd presennol oedd… Siarad cyhoeddus. Roedd gas gennai’r syniad o siarad cyhoeddus. Ond dysgais i’w garu diolch i seminarau siarad parod a byrfyfyr wythnosol, gorfodol (ahhhhh!) o'r enw POPs (Seicoleg Sgiliau Cyflwyno Llafar) ac erbyn hyn, rwy’n cael fy ngwahodd i siarad (yn gyhoeddus, o flaen pobl, ahhhhh!) ledled y wlad. Yr unig reswm y gallaf wneud hynny yw’r sesiynau hynny y des i’w caru yn y pen y draw. Hyd yn oed y peth cyntaf yn y bore am 9am ar ôl noson hwyr iawn. Wrth edrych yn ôl, roedd sawl bore’n dechrau am 9am.
Ar ôl graddio, bu sawl tro annisgwyl yn llwybr fy mywyd. Yn y pen draw, cefais swydd mewn cwmni cyhoeddi cylchgronau, ac es ati i weithio fy ffordd i fyny drwy'r tîm golygyddol i ddod yn Bennaeth Golygyddol ac Uwch Olygydd. Rwyf wedi goruchwylio cyfathrebiadau mewn cwmni adeiladu, ac ar hyn o bryd, rwy’n gweithio'n llawrydd fel person creadigol. Rwy’n ysgrifennydd. Yn awdur. Yn artist. Yn siaradwr. Yn ymgynghorydd. Rwy’n amlochrog, yn aflonydd. Rwyf wrth fy modd yn dysgu. Datblygodd yr awydd hwn am wybodaeth yn neuaddau Bangor.
Cyhoeddais fy llyfr cyntaf, The Wyrd Less Woven, yn 2024, ac yna fy ail lyfr, Valkyrjur: Servant or Master?, ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn. Roeddwn wedi treulio sawl blwyddyn ynghynt yn gweithio ar Valkyrjur, yn mynd ar drywydd syniadau amrywiol nes i mi deimlo eu bod wedi’u harchwilio’n lân. Roeddwn wedi cyflwyno sgyrsiau ar y pwnc, ac wedi treulio amser yn ei fireinio i fod yn rhywbeth yr oeddwn yn hynod falch ohono - ac yn falch ohono hyd heddiw. Rwyf wedi cytuno i ysgrifennu dilyniant gyda fy nghwmni cyhoeddi, ac mae'n argoeli i fod hyd yn oed yn fwy na Valkyrjur. Nod The Wild Unleashed: The Other in Norse Myth yw ymchwilio i agweddau’r arall - Jotunn, Risar, Troll, Seidworker ac ati - a sut y gwnaethant ddylanwadu ar arferion diwylliannol ac arferion crefyddol y Gogledd Canoloesol cynnar.
Rwyf hefyd yn treulio llawer o amser yn gwirfoddoli, yn enwedig yn y maes rhyng-ffydd a chrefyddol. Rwyf ar Bwyllgor a Bwrdd Ymddiriedolwyr y Ffederasiwn Paganaidd, Pwyllgor Asatru y Deyrnas Unedig, a Bwrdd Ymddiriedolwyr PaganAid. Rwy’n credu’n gryf mewn meithrin mannau diogel a chynhwysol o fewn grwpiau ffydd, ac yn gweithio i helpu crefyddau eraill i ymgorffori mannau o’r fath o fewn eu sefydliadau. Rwyf wedi cael fy nghyfweld gan y BBC ar gefn canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf (a ddangosodd fod unigolion LGBTQIA+ yn fwy tebygol o fod yn perthyn i grefydd leiafrifol), ac fel arall yn ymgynghori ar sut i wneud sefydliadau’n fwy cynhwysol o leiafrifoedd crefyddol, ac i hyrwyddo cynwysoldeb fy llwybr personol. Rwyf wedi trafod yr elfennau hyn mewn pob math o ddigwyddiadau, yn ogystal â'm meysydd diddordeb (Valkyries/duwiau marwolaeth yn y sffêr Nordig/yr 'arall' yn Oes y Llychlynwyr/arferion crefyddol Cyn-Gristnogol yn y Gogledd Canoloesol).
Erbyn heddiw, yn 2025, rwyf wedi graddio ers dros ddeng mlynedd. Rwy’n ystyried ymgymryd â gradd Meistr mewn Hanes Canoloesol, ond pwy a ŵyr i le fydd hynny’n fy arwain. Yn ddigon rhyfedd, er fy mod yn meddwl y byddai astudio gradd hanes (fy nghynllun gwreiddiol pan oeddwn yn iau) wedi bod yn fwy defnyddiol o ran rhan bresennol fy nhaith, ni fyddwn lle ydw i nawr oni ba am y radd a wnes i. Mae rhyw deimlad rhyfedd o serendipaidd mewn pethau’n dod yn ôl i berthnasedd. Ailgynnau hen ddiddordebau pan fo'r amser yn iawn.
Mae Bangor yn rhan ohonof o hyd. Rwy’n colli’r ddinas bob dydd. Rwy’n edrych yn ôl yn annwyl, gan gofio pwy oeddwn i gynt, a phwy ydw i heddiw."
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth rwy’n gweithio arno, dilynwch fi ar y cyfryngau cymdeithasol:
direct.me/valsif
Blue Sky: @valsif.bsky.social
YouTube: @valsif
Instagram: @ladyvalsif