Dyma drosolwg cyflym o'n cyrsiau Almaeneg. Cofiwch gallwch gyfuno eich astudiaeth o Almaeneg ag un neu ddwy iaith arall ar ein prif raglenni.
Ym Mhrifysgol Bangor gallwch ddewis astudio Almaeneg ar ei hun a dod yn rhigol yn yr iaith erbyn i chi raddio. Neu gallwch gyfuno eich astudiaeth o Almaeneg ag un neu ddwy iaith arall ar ein prif rhagleni. Dyma'r ieithoedd eraill rydyn ni'n eu cynnig yn y Brifysgol.
Ym Mhrifysgol Bangor gallwch ddewis astudio Almaeneg ar ei hun a dod yn rhigol yn yr iaith erbyn i chi raddio. Neu gallwch gyfuno eich astudiaeth o Almaeneg ag un neu ddwy iaith arall ar ein prif rhagleni. Dyma'r ieithoedd eraill rydyn ni'n eu cynnig yn y Brifysgol.
A oes gennych unrhyw gwestiynau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithoedd Modern.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithoedd Modern ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Ieithoedd Modern ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ymunwch a'n cymuned glos - Dilynwch ni ar Instagram
Newyddion o'r Ysgol
Gweld MwyEin Hymchwil o fewn Almaeneg
Mae ein proffil ymchwil rhyngwladol mewn ieithoedd modern yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys, yn unigol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaenig ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieinëeg.
Mae gennym gryfderau ymchwil arbennig ym meysydd safbwyntiau ôl-drefedigol at ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, grym a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaeth genedlaethol, diwylliannau poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.
Mae ein myfyrwyr yn elwa o gymuned ymchwil fywiog a chynhwysol. Nid yn unig mae ein hymchwil yn goleuo ein haddysgu, rydym hefyd yn cynnal Fforwm Ymchwil cyffrous bob tymor, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau gan ysgolheigion gwadd a'n staff ymchwil a'n myfyrwyr ein hunain, cyfarfodydd lansio llyfrau a pherfformiadau celf, cerddoriaeth a barddoniaeth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.