Fy ngwlad:
Llun o ddau fyfyriwr yn cerdded i lawr y llwybr y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau.

Graddau Sbaeneg Israddedig

Mae astudio Sbaeneg ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig profiad dysgu cynhwysfawr, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau iaith uwch wrth ddarparu mewnwelediadau manwl i gyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol cyfoethog y byd Sbaeneg.

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn Sbaeneg

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Sbaeneg i chi

Astudiaethau Ieithoedd Modern - BA (Anrh)
Dewch i ddatblygu eich sgiliau iaith ac archwilio diwylliannau amrywiol. Enillwch sgiliau cyfathrebu a bod yn llawn hyder wrth feistroli eich dewis iaith/ieithoedd.
Cod UCAS
R817
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cerddoriaeth ac Ieithoedd Modern - BA (Anrh)
Meistrolwch eich dewis iaith ochr yn ochr â cherddoriaeth. Ymgollwch mewn diwylliannau amrywiol a mynegwch eich hun trwy gerddoriaeth.
Cod UCAS
W3R8
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Tsieinëeg) - BA (Anrh)
Siaradwch ieithoedd y byd. Mae’r cwrs Ieithoedd Modern yn cynnig eich gwneud yn rhugl mewn Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg. Enillwch arbenigedd diwylliannol ac agor drysau i yrfa fyd-eang.
Cod UCAS
R800
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
  • 1 - 3(of 8)
  • 2 - 4(of 8)
  • 3 - 5(of 8)
  • 4 - 6(of 8)
  • 5 - 7(of 8)
  • 6 - 8(of 8)
Cyfuno Sbaeneg ag iaith arall

Ym Mhrifysgol Bangor gallwch ddewis astudio Sbaeneg ar ei hun a dod yn rhigol yn yr iaith erbyn i chi raddio. Neu gallwch gyfuno eich astudiaeth o Sbaeneg ag un neu ddwy iaith arall ar ein prif raglenni. Dyma'r ieithoedd eraill rydyn ni'n eu cynnig yn y Brifysgol.

Ym Mhrifysgol Bangor gallwch ddewis astudio Sbaeneg ar ei hun a dod yn rhigol yn yr iaith erbyn i chi raddio. Neu gallwch gyfuno eich astudiaeth o Sbaeneg ag un neu ddwy iaith arall ar ein prif raglenni. Dyma'r ieithoedd eraill rydyn ni'n eu cynnig yn y Brifysgol.

A oes gennych unrhyw gwestiynau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithoedd Modern. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithoedd Modern ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ieithoedd Modern ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ymunwch a'n cymuned glos - Dilynwch ni ar Instagram

Ein Hymchwil o fewn Sbaeneg

Mae ein proffil ymchwil rhyngwladol  mewn ieithoedd modern yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys, yn unigol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaeneg ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieinëeg.

Mae gennym gryfderau ymchwil arbennig yn y meysydd canlynol: safbwyntiau ôl-drefedigaethol at ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, grym a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaeth genedlaethol, diwylliant poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.

Mae ein myfyrwyr yn elwa o gymuned ymchwil fywiog a chynhwysol. Mae ein hymchwil yn sail i'n haddysgu ac rydym hefyd yn cynnal Fforwm Ymchwil cyffrous bob tymor, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau gan ysgolheigion gwadd a'n staff ymchwil a myfyrwyr ein hunain, cyfarfodydd lansio llyfrau a pherfformiadau celf, cerddoriaeth a barddoniaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.