Fy ngwlad:
Dyluniad o gadair gyda model yn cael ei adeiladu

Dylunio Cynnyrch - hen

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Creu gemwaith yn y gweithdy

Pam Astudio Dylunio Cynnyrch?

Mae'r cwrs dylunio hwn yn wahanol i unrhyw gwrs arall yn y Deyrnas Unedig gan ei fod yn gadael i chi deilwra eich profiadau wrth baratoi at ddod yn ysgogwr newid, yn arloeswr ac yn arweinydd.  Byddwch yn datblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddod â chynhyrchion arloesol newydd i'r farchnad a gwneud bywyd yn well, yn haws ac yn fwy cynhyrchiol i gwsmeriaid sy'n gwerthfawrogi ffordd newydd o wneud pethau.

Byddwch yn dysgu rheoli projectau masnachol yn broffesiynol, er mwyn caniatáu i gwmnïau fod yn fwy effeithiol, cystadleuol a pherthnasol yn y byd sydd ohoni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth, a'ch helpu i roi ar waith y pethau hynny a fydd er lles pobl a'r blaned.

Fideo - Dylunio Cynnyrch

O wobrau i leoliadau – dewch i ddarganfod pam y dylech chi astudio Dylunio Cynnyrch yma gyda ni.

Proffil Myfyriwr

Elliot Goddard

Proffil Myfyrwyr Elliot Goddard

Dylunio Cynnyrch

"Yr hyn rwy'n ei garu am y cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yw bod gennym ddarlithwyr gwybodus iawn gyda phrofiad yn y diwydiant."

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus Dylunio Cynnyrch ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Dylunio Cynnyrch ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Dylunio Cynnyrch ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Hymchwil o fewn Dylunio Cynnyrch

Wrth astudio Dylunio Cynnyrch byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri cenedlaethol a rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.

Mae ein hymchwil ym maes Dylunio Cynnyrch wedi'i gwreiddio'n gyson yn ein briffiau byw ac mae'r canlyniadau'n dod yn rhan annatod o brosesau datblygu cynnyrch ac arloesi newydd o fewn cwmnïau. Mae'r profiadau cymhwysol a byd go iawn hyn wedi arwain at i nifer o'n myfyrwyr gael eu henwi ar batentau gyda'n cwmnïau partner.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.