Fel myfyriwr a gradd BSc Dylunio Cynnyrch byddwch yn gyflogadwy iawn. Byddwch yn gallu defnyddio'ch sgiliau meddylfryd dylunio i wneud y byd yn well lle trwy ddatrys problemau i gwsmeriaid, defnyddwyr, cleientiaid a chwmnïau ledled y byd.
Dyma'r unig gwrs yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig tri phrofiad ar leoliad gwaith, un bob blwyddyn gyda chwmni o'ch dewis. Mae hyn yn eich galluogi i deilwra eich profiadau i gyd-fynd â'ch dyheadau o ran gyrfa ac yn eich galluogi i arbenigo neu feithrin profiadau amrywiol y bydd cyflogwyr y dyfodol yn eu gwerthfawrogi.
Mae profiad mewn lleoliad gwaith yn cyfrif am 24 wythnos dros dair blynedd:
- sef bloc o 8 wythnos bob blwyddyn
- Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol
- Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt o’r coleg
- Cynhyrchu portffolio ardderchogProfiad o gydweithredu
- Cymryd rhan mewn projectau go iawn
- Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Profiadau a ysgogir gan yrfaoedd
Mae myfyrwyr blaenorol wedi cael gwaith fel:
- Dylunwyr mewn asiantaethau
- Dylunwyr cynnyrch mewn cwmnïau ymgynghorol
- Arbenigwr technegol mewn peirianneg a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur
- Peirianwyr cynhyrchu
- Rheolwyr cynhyrchu
- Dylunwyr technegol
- Dylunio mewnol
- Dylunio dodrefn
- Peirianwyr dylunio
- Dylunwyr graffeg
- Dylunwyr digidol
- Dylunwyr gemwaith
- Rheolwyr marchnata
- Rheolwyr datblygu busnes
- Arweinwyr datrysiadau arloesol
- Rheolwyr strategaethau
- Perchnogion busnes hunangyflogedig
- Ymgynghorwyr annibynnol
- Athrawon uwchradd