Mae'r cwrs hwn yn rhoi paratoad cynhwysfawr i chi at yrfa werth chweil fel meddyg sylfaen yn y GIG a'r yrfa y tu hwnt i hynny. Mae'r cwrs wedi'i strwythuro i'ch galluogi i feithrin y wybodaeth, y sgiliau clinigol a'r agweddau proffesiynol angenrheidiol sy'n ofynnol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac fe'i cydnabyddir fel Cymhwyster Meddygol Sylfaenol o dan y Ddeddf Feddygol. Gall graddedigion y rhaglen wneud cais am gofrestriad dros dro gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae arbenigeddau mewn Meddygaeth yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Gofal Acíwt
- Anaestheteg
- Academia Glinigol
- Meddygaeth Argyfwng
- Practis Cyffredinol
- Gofal Dwys
- Meddygaeth
- Meddygaeth Alwedigaethol
- Obstetreg a Gynaecoleg
- Offthalmoleg
- Paediatreg
- Patholeg
- Seiciatreg
- Iechyd Cyhoeddus
- Radioleg
- Llawdriniaeth
Fodd bynnag, gall graddedigion ddefnyddio eu gradd, nid yn unig i fynd i mewn i gynlluniau hyfforddiant meddygol arbenigol, ond hefyd fel gradd gyffredinol ar gyfer ystod o broffesiynau eraill.