Cyflwynir cwrs Meddygaeth Gogledd Cymru MBBCh GEM mewn partneriaeth rhwng yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Fel myfyriwr GEM cewch gyfle i wneud eich holl radd feddygol yng Ngogledd Cymru gyda lleoliadau ar draws yr ardal.
Wrth hyfforddi i fod yn feddyg trwy wneud y rhaglen ddarpariaeth gydweithredol hon ym Mhrifysgol Bangor/ Caerdydd, byddwch yn elwa o'r canlynol:
- Cwricwlwm sbiral arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd o bob cwr o'r byd
- Addysgu gan ymchwilwyr a chlinigwyr o fri rhyngwladol
- Addysgu clinigol sydd wedi ennill gwobrau ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel gan ein myfyrwyr meddygol presennol
- Addysgu a chyfleusterau rhagorol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor (Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Aur (TEF)
- Cael Gogledd Cymru fel eich ystafell ddosbarth, sy'n golygu eich bod chi'n cael ehangder o brofiad clinigol o feddygfeydd teulu gwledig, bach ac ysbytai bychain i adrannau damweiniau ac achosion brys prysur mewn dinas, ac arbenigeddau llawfeddygol cymhleth.
- Ffocws unigryw ar feddygaeth gymunedol trwy ystod o brofiadau - arfordirol, trefi bach, ffermio, meddygaeth fynyddig, ysbytai addysgu mawr
- Dysgu mewn cymunedau dwyieithog sy'n rhoi'r sgiliau i chi ddarparu gofal sy'n briodol yn ieithyddol
- Trosglwyddiad llyfn i flwyddyn gyntaf eich gyrfa fel meddyg
Mae cwrs C21 Gogledd Cymru GEM yn derbyn myfyrwyr sy'n perfformio'n dda o gyrsiau bwydo cydnabyddedig a hefyd fyfyrwyr sydd eisoes wedi'u derbyn i'r rhaglen A100 yng Nghaerdydd sy'n dymuno trosglwyddo, ar ôl cwblhau eu blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus.