Mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad o gyflwyno rhaglenni gradd israddedig sy'n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer, dros 20 mlynedd o gyflwyno rhaglenni Meistr, ac rydym wedi goruchwylio dros 200 o fyfyrwyr doethurol (PhD) yn llwyddiannus. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig profiad trawsnewidiol i chi yn ystod eich ymchwil a byddwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi gael gyrfa mewn ymarfer neu ymchwil ym maes chwaraeon, iechyd, ymarfer ac antur a'r maes academaidd. Adlewyrchir ein rhagoriaeth yn ein perfformiad rhagorol a chyson mewn tablau cynghrair annibynnol.
Oherwydd yr enw da hwn am ragoriaeth ymchwil, rydym yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Rydym yn falch o'r dangosyddion ansawdd allanol ac annibynnol hyn, ond mae ein myfyrwyr yn aml yn dweud wrthym mai'r hyn y maent yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd yw bod yn rhan o amgylchedd bach, cyfeillgar a chael llawer o amser cyswllt gyda staff.
Er bod staff yn gallu goruchwylio myfyrwyr ymchwil mewn sawl maes sy'n ymwneud â chwaraeon ac ymarfer, mae gennym arbenigedd gyda'r gorau yn y byd yn y meysydd canlynol:
- Perfformiad chwaraeon elît
- Gweithgarwch corfforol, iechyd a lles
- Gwyddorau chwaraeon antur
- Amgylcheddau eithafol
- Addysg gorfforol
- Seicoleg chwaraeon ac ymarfer
- Seicoleg perfformiad elît
- Datblygu dawn ac arbenigedd
- Adnabod dawn
Rydym yn darparu ymchwil arloesol o'r radd flaenaf i'r marchnadoedd chwaraeon ac ymarfer ac mae hynny'n dylanwadu ar ein cwricwlwm yn uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y cewch eich mentora a'ch goruchwylio gan arbenigwyr blaenllaw gan ddefnyddio'r dulliau mwyaf diweddar ac arloesol posib. Mae pob aelod staff yn gwneud ymchwil ac yn gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon ac arbenigwyr meddygol ar y lefelau uchaf yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd. Mae arbenigedd o'r fath yn golygu bod gennym gysylltiadau cryf yn y sectorau perfformiad chwaraeon ac iechyd ar y lefelau uchaf. Mae'r ethos ymchwil hwn yn greiddiol o ran meddwl yn feirniadol o ansawdd uchel a beth a sut byddwch yn ymchwilio.
Byddwch yn datblygu sgiliau i lunio cwestiynau blaengar eich hun ac yn ennill y sgiliau i gynllunio dulliau i ateb y cwestiynau hyn. Byddwch yn dysgu'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i feddwl a gweithio'n annibynnol, ynghyd â'r wybodaeth a'r hyder i barhau i ddysgu ac arwain ar ddatblygu gwybodaeth ar ôl graddio. Mae'r sgiliau hanfodol hyn yn eich galluogi i sicrhau eich datblygiad yn eich dewis yrfa. Dyma enghreifftiau o bwy rydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy:
- GIG
- British Psychological Society
- Bwrdd Criced Cymru a Lloegr
- UK Sport
- English Institute of Sport
- Rugby Football Union
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
- British Gymnastics
- Manchester City FC
- Outlook Expeditions
- Rygbi Gogledd Cymru
- MENCAP
- Adventure Parc Snowdonia
- Camu i'r Copa
- Codi Pwysau Cymru
- Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru
- Canolfan Awyr Agored Conwy
- GB Triathlon
- Swim England
- GB Hockey
- GB Rowing
- British Canoeing
- RYA Cymru
- Yr Awyrlu Brenhinol
- UK Deaf Sport
- England Athletics
Rydym wedi ein lleoli mewn adeilad hardd sy'n adeilad rhestredig Gradd II ar lannau'r Fenai ac mewn ardal sy'n frwd dros chwaraeon ac iechyd. Yn ogystal â mynyddoedd, llynnoedd, traethau a choedwigoedd Parc Cenedlaethol Eryri, bydd gennych fynediad at labordai lle ceir offer o'r radd flaenaf ar gyfer ffisioleg a seicoleg chwaraeon ac ymarfer, rheolaeth a dygsu echddygol, a dadansoddi symudiadau gan gynnwys:
- Labordy addysgu £1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
Byddwn yn helpu i'ch gwneud yn amlwg yng nghanol y dorf gyda doethuriaeth o un o'r prifysgolion gwyddorau chwaraeon 'gwreiddiol' a blaenllaw yn y DU.