Rhedwr yn cynhesu

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
Cyfrifiadur mewn labordy chwaraeon

Pam Astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer?

Mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad o gyflwyno rhaglenni gradd israddedig sy'n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer, dros 20 mlynedd o gyflwyno rhaglenni Meistr, ac rydym wedi goruchwylio dros 200 o fyfyrwyr doethurol (PhD) yn llwyddiannus.  Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig profiad trawsnewidiol i chi yn ystod eich ymchwil a byddwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi gael gyrfa mewn ymarfer neu ymchwil ym maes chwaraeon, ymarfer ac antur a'r maes academaidd.

Myfyrwyr ar y peiriannau rhwyfo yng nghampfa Canolfan Brailsford

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Efallai eich bod am fod yn athletwr, cyfarwyddwr perfformiad, rheolwr llwybr neu wyddonydd llwybr, gwyddonydd datblygu dawn, hyfforddwr neu addysgwr hyfforddwyr. Efallai bod gennych ddiddordeb defnyddio chwaraeon ac ymarfer corff i wneud ymchwil a dysgu unigolion a sefydliadau mawr (e.e. y GIG, y llywodraeth) am addasiadau ffisiolegol a seicolegol a manteision iechyd ac ymarfer corff.  Efallai eich bod yn gweld manteision meddyliol chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff ac eisiau bod yn seicolegydd perfformiad, cynghorydd ffordd o fyw perfformiad neu seicolegydd ymarfer corff.  Nid oes prinder opsiynau gyrfa ym maes chwaraeon a byddai doethuriaeth gwyddor chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn eich rhoi ar y trywydd iawn i gael yr yrfa rydych wedi bod yn breuddwydio amdani.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ein Hymchwil

Mae ansawdd yr ymchwil a wneir mewn prifysgolion yn destun archwiliad dwys gan lywodraeth y DU bob rhyw saith mlynedd. Mae'r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ar hyn o bryd yn y 5 uchaf am ymchwil. Mae ein holl staff yn weithredol ym maes ymchwil a'n nod yw darparu'r hyfforddiant ymchwil gorau un i'n hymchwilwyr doethurol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?