Gellir defnyddio meddylfryd dylunio i newid y byd.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr i unigolion sy'n dymuno arwain arloesedd trwy greadigrwydd a meddylfryd dylunio cymhwysol, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau cysylltiedig.
Mae'r cwrs yn cynnwys dau semester astudio, sy'n cynnwys projectau dylunio; astudiaeth academaidd; a lleoliad diwydiannol proffesiynol, sy'n canolbwyntio ar ymchwil, gan arwain at broject ymchwil terfynol, annibynnol. Gall y project ymchwil terfynol ddilyn tri llwybr, a'r ffocws ar gyflwyno rhywbeth masnachol, entrepreneuriaeth neu wasanaeth ymgynghori masnachol, yn seiliedig ar ddyheadau gyrfa a maes diddordeb unigolyn.
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i gynnig astudiaeth uwch mewn dylunio arloesi, a phwyslais ar ddefnyddio creadigrwydd ac offer arloesi, ynghyd â datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i arwain, cydweithio a hwyluso mewn meysydd sydd angen arloesedd.
Mae gan yr academwyr sy'n ymwneud â'r rhaglen gysylltiadau helaeth â chwmnïau dylunio a gweithgynhyrchu yn lleol ac yn fyd-eang. Defnyddir y rheiny i sicrhau bod y modiwlau'n berthnasol i rolau modern mewn dylunio arloesi, eu bod yn cael ei defnyddio'n sail i ddatblygiad proffesiynol trwy leoliadau gwaith, ac i hyrwyddo meddylfryd arloesol sy'n canolbwyntio ar agweddau masnachol.
Mae'r myfyrwyr yn cyrraedd gyda chefndir neu ddiddordeb yn rôl meddylfryd dylunio ac arloesi, ac maent yn ymroi i amrywiaeth o sialensiau dylunio sy'n eu galluogi i arbrofi a chanfod y llwybr cywir o ran gweithgareddau arloesi a chyfeiriad strategol.
Cynlluniwyd y cwrs i herio'r myfyrwyr i ymwneud â dylunio ar bob lefel, o ddeall ei swyddogaeth a'i werth ehangach mewn sefydliadau, i gymhwyso'r ddealltwriaeth hon ochr yn ochr â chreadigrwydd ac offer arloesi yn swyddogaethau arweinydd, hwylusydd ac ymarferwr.
Rhennir modiwlau'r cynnwys yn fodiwlau craidd hanfodol, sy'n rhoi dealltwriaeth fanwl o'r offer a'r technegau a ddefnyddir i roi meddylfryd dylunio arloesol ar waith, ac mae'r modiwlau dewisol yn cynnig cyfleoedd i ddilyn meysydd o ddiddordeb arbenigol yn fwy manwl. Mae'r rheiny'n cynnwys cyflwyniad i feddalwedd allweddol y diwydiant dylunio, megis Solidworks, Adobe Indesign, Photoshop a Illustrator, yn ogystal â phynciau o bwys sy'n gysylltiedig â dylunio: Seicoleg Defnyddwyr a Newid Ymddygiad. Byddwn yn darparu addysgu a dysgu rhagorol i chi trwy amrywiol ddulliau asesu a defnyddiwn offer addysgu trwy brofiad, technoleg, cyfryngau ac amgylcheddau.
Gallai'r Modiwlau Craidd gynnwys:
Meddylfryd Dylunio - Proses a Hwyluso
Meddylfryd Dylunio - Strategaeth
Dulliau Ymchwil Dylunio
Project Dylunio
Traethawd Hir MSc (gydag Ymchwil, Arteffact ac Adroddiad, a llwybrau Cynllunio Strategol)
Gallai'r Modiwlau Dewisol gynnwys:
CAD Parametrig gyda Modelu Arwyneb Uwch
CAD Dadansoddi Elfennau Meidraidd i Ddiwydiant
Graffeg Ddigidol Gymhwysol
Procio a Newid Ymddygiad
Seicoleg Defnyddwyr: Theori
Seicoleg Defnyddwyr Gymhwysol.