Cyfleoedd Gyrfa mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol
Bwriad Gradd Meistr mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol yw gwella eich rhagolygon a'ch cyfleoedd am yrfa, gan gynnig yr hyblygrwydd i addasu'r cwrs i'r maes neu ddiwydiant sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Gall myfyrwyr ddewis astudio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, a all gynnwys astudio ochr yn ochr â chyflogaeth mewn swydd gysylltiedig. Fel myfyriwr graddedig y cwrs Meistr byddwch yn gallu cyflawni rolau arwain, rheoli ac ymarfer mewn meysydd sy'n gysylltiedig â dylunio mewn amryw o ddiwydiannau, yn ogystal â dilyn llwybrau entrepreneuraidd.
Gellir cyflogi graddedigion fel:
- Dylunwyr mewn asiantaethau
- Dylunwyr cynnyrch mewn cwmnïau ymgynghorol
- Arbenigwyr technegol mewn peirianneg a dylunio â chyfrifiadur
- Rheolwyr marchnata
- Rheolwyr datblygu busnes
- Arweinwyr datrysiadau arloesol
- Rheolwyr strategaethau
- Ymgynghorwyr annibynnol
- Perchnogion busnes hunangyflogedig
- Athrawon uwchradd.
Ein Hymchwil o fewn Dylunio Arloesi Cymhwysol
Mae ein hymchwil yn rhan gyson o'n briffiau byw ac mae'r canlyniadau'n dod yn rhan annatod o brosesau datblygu cynnyrch ac arloesi newydd mewn cwmnïau. Bu'r profiadau cymhwysol yma a phrofiad o'r byd go iawn yn fodd i nifer o'n myfyrwyr gael eu henwi ar batentau gyda'n cwmnïau partner.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.