Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau meistr ôl-raddedig ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, parafeddygon a'r rhai sy'n ymwneud â rheoli gwasanaethau clinigol, iechyd cyhoeddus a gwaith cymdeithasol. Mae gennym bortffolio cynyddol o fodiwlau a llwybrau dysgu o bell ar-lein sy'n galluogi i'n harbenigedd fod ar gael i rai sydd y tu allan i Ogledd Cymru.
- Mae gan ein staff ystod eang o brofiad clinigol cyfoes yn eu meysydd proffesiynol.
- Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd lleol, yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch o'r ansawdd uchaf un.
- Mae eich addysgu wedi ei seilio ar ymchwil sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gan sicrhau bod yr hyn rydych yn ei astudio yn gyfoes o ran theori ac ymarfer
- Byddwch yn cael cyfle i astudio theori a phrofi ymarfer clinigol mewn sefyllfa ddwyieithog gan roi i chi'r sgiliau i ddarparu gofal clinigol a chymdeithasol mewn cyd-destun unigryw
- Os oes gennych eisoes radd mewn gwyddorau bywyd a diddordeb mewn gofal iechyd proffesiynol, gallwn gynnig cyrsiau carlam proffesiynol, wedi'u hariannu gan y GIG, mewn Nyrsio a Ffisiotherapi.
- Mae campysau ym Mangor a Wrecsam yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i chi o ran lle byddwch yn astudio.
- Mae ein dull modiwlaidd hyblyg rhan-amser/llawn-amser o ddarparu cyrsiau yn galluogi i weithwyr proffesiynol astudio tra maent yn cyflawni swyddi eraill.
- Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) yn eich galluogi i wella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn sawl maes gwahanol.
- Gellwch gymryd ein modiwlau fel cyrsiau annibynnol neu fel rhan o gymhwyster mwy.
- Rydym wedi comisiynu lleoedd i rai modiwlau a chyrsiau, yn benodol i aelodau staff BIPBC a WAST ar draws Gogledd Cymru.
- Mae gennym ymchwilwyr a darlithwyr profiadol mewn Iechyd/Gofal Cymdeithasol a Lles.
- Rydym yn cynnig cynadleddau, seminarau a gweithdai ar faterion allweddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Adnewyddu eich gwybodaeth a gwireddu'ch uchelgeisiau
Bydd ein hystod gynyddol o raglenni a modiwlau yn cynyddu ac yn diweddaru eich gwybodaeth ac yn gwella'ch rhagolygon gyrfa yn y dyfodol mewn amrywiaeth o broffesiynau, gan gynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol a phroffesiynau iechyd cysylltiedig. Mae ein cyrsiau'n gysylltiedig ag ymarfer ac wedi'u cynllunio i ymateb i newidiadau yn y gweithle, gan roi'r sgiliau rydych eu hangen ar gyfer ymarfer clinigol effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd cwrs gofal iechyd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor yn eich galluogi i gymryd rhan weithredol mewn gwella gofal i gleifion ac ymarfer clinigol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.