Cyrsiau Cymraeg i Staff

  • Ynganu enwau pobl ac enwau lleoedd/adeiladau/adrannau yn gywir
  • Cyfarch a ffarwelio, ymadroddion sylfaenol
  • Deialog/set o ymadroddion syml sy’n berthnasol i'r swydd e.e.:
  • Uwch-reolwyr - agor a chau cyfarfod yn Gymraeg
  • Derbynfa - trosglwyddo galwad ffôn
  • Llyfrgell – adnewyddu llyfr wrth y ddesg
     

Lefel iaith: Mynediad 1 (8-10 awr o ddysgu)

Mae Lefel 2 mewn dwy ran:

Rhan 1 (yr un fath i bawb)

  • Rhifau, dyddiau'r wythnos, amser cyfarfod, teitl swydd/adran
  • Set o ddeialogau penodol yn defnyddio chi, ti, yn cynnig panad/ trefnu cyfarfod
  • Defnydd syml o'r gorffennol a'r presennol
  • Ymateb yn syml i gwestiynau am y gwaith: ydw, ydy, do, iawn
  • Creu neges syml 'allan o'r swyddfa' gan ddefnyddio templed, gosod yn ddwyieithog a newid y dyddiad


Rhan 2 (teilwra ar gyfer y swydd)

  • Set o tua 20 o ymadroddion/brawddegau sy'n cael eu defnyddio yn aml gan yr aelod o staff yn ei swydd wrth ddelio efo pobl eraill
  • Deialog/sefyllfa wedi'i sgriptio gyda'r aelod o staff ymlaen llaw
  • Cyfeirio rhywun i ran arall o'r adeilad/safle (gweinyddwyr)

neu

  • Ysgrifennu e-bost syml yn trefnu cyfarfod efo staff/cydweithiwr (uwch-reolwyr)

Lefel iaith: Mynediad 2 - cyn neu ar ôl arholiad Mynediad

  • Cyfres o 6 deialog – wyneb yn wyneb a dros y ffôn - wedi’u seilio ar sefyllfaoedd sy'n codi yng ngwaith yr unigolyn.
  • Pob deialog wedi'u sgriptio ymlaen llaw gyda’r aelod o staff, ond dim rhaid iddyn nhw gadw yn union at y sgript yn y prawf.
  • Dau o’r deialogau yn cael eu gosod yn y prawf (heb i’r ymgeisydd wybod ymlaen llaw pa rai).
  • Y tiwtor yn gofyn 2 gwestiwn gwaith ar ddechrau’r prawf: Be’ wnaethoch chi yn y gwaith ddoe / Be’ dach chi’n ‘neud yn y heddiw/yfory?
  • Ysgrifennu 3 e-bost byr (cyn y prawf llafar yn eu hamser eu hunain) yn ymwneud â’r swydd e.e. neges allan o’r swyddfa; trefnu cyfarfod efo cydweithiwr; un e-bost yn ymateb i neges oddi wrth y tiwtor.
  • Gellir amrywio deunydd y lefel yn ôl gofynion y swydd e.e. llyfrgell – hepgor yr e-byst a gosod 7 deialog wrth y ddesg a 2 dros y ffôn

Lefel iaith: Sylfaen – cyn neu ar ôl arholiad Sylfaen

 

Gallu delio efo nifer o wahanol ymholiadau/sefyllfaoedd, gan gynnwys:

Sgwrs wyneb yn wyneb

  • Sgwrs anffurfiol gyda’r tiwtor am y gwaith
  • Sgwrs anffurfiol gydag un o’r cydweithwyr


Sgwrs dros y ffôn

  • Aelod o staff yn ffonio i holi am y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
  • Ymgeisydd yn ffonio cydweithiwr i drefnu cyfarfod neu i drafod darn o waith


Tasgau ysgrifennu

  • Llunio rhestr syml / set o nodiadau syml sy’n berthnasol i’w gwaith
  • Llunio neges e-bost anffurfiol at gydweithiwr (yn ymwneud ag elfen ar eu gwaith).


Gall y dysgwr ymarfer y sefyllfaoedd ymlaen llaw ond heb wybod yn union pa gwestiynau fydd yn codi a beth yn union fydd y cynnwys - dim sgript

Lefel iaith: Canolradd – cyn neu ar ôl arholiad Canolradd

Sgwrs wyneb yn wyneb

  • Sgwrs anffurfiol gyda rhywun yn y swyddfa
  • Sgwrs gyda’r tiwtor – siarad am y gwaith (tiwtor yn holi am y gwaith)
  • Aelod o staff yn galw yn y swyddfa (sgwrs heb ei pharatoi ymlaen llaw)

Sgwrs ar y ffôn

  • Ffonio rhywun allanol e.e. aelod o staff mewn adran wahanol i gadarnhau rhywbeth
  • Aelod o staff mewn swyddfa arall yn ffonio i drafod rhywbeth ( sgwrs heb ei pharatoi)

Ysgrifennu/darllen a deall

  • Ysgrifennu e-bost anffurfiol i aelod o staff yn trefnu cyfarfod i drafod digwyddiad
  • Eitem ffurfiol (e.e. Agenda, neges e-bost i grŵp o staff)
  • Fel yr uchod ond disgwyl mwy o gywirdeb/rhuglder/gwell ddealltwriaeth nag yn lefel 5
  • Angen marc uwch i lwyddo
  • Cywiro darn o Gymraeg sy'n cynnwys gwallau
  • Cynnwys elfen mentora – helpu staff eraill i ddysgu pethau gweithle ar lefel sylfaenol

Lefel iaith: Uwch 2 – Ar ôl arholiad Uwch

  • Cyflwyniad / cyfweliad / cyfarfod (go iawn) – sy’n berthnasol i’r swydd
  • Siarad efo grŵp o bobl (e.e. myfyrwyr, aelodau’r tîm, dysgwyr)
  • Trafod darn o waith efo cydweithiwr – os yn bosib rhywun sy wedi bod yn siarad Saesneg efo’r ymgeisydd hyd yn hyn
  • Sesiwn mentora efo aelod o’r staff sy’n dysgu Cymraeg – neu gynorthwyo tiwtor mewn sesiwn dysgu efo grŵp o ddysgwyr
  • Yr un tasgau ysgrifennu â lefel 5 ond i’w gwneud mewn amser penodol (1 awr) yn ystod y prawf

Lefel iaith: Hyfedredd

Cyrsiau Cymraeg Wythnosol i staff

Bydd y cyrsiau i staff yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ar TEAMS.
Os nad ydach chi’n siŵr o’ch lefel, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Jenny neu Elen (Tiwtoriaid Cymraeg i staff).
Lefel Cwrs Day Amser Tiwtor
Beginners / Lefel 1 Cyflwyniad (cwrs 8 wythnos) Mercher 12:00-12:50 Elen
Lefel 2 Mynediad 1 Llun 13:15-14:00 Elen
Lefel 3 Mynediad 2 Iau 12:00-12:50 Elen
Lefel 4 Canolradd 1 Mawrth 13:00-13:50 Jenny
Lefel 5 Canolradd 2 / Pellach Llun 13:00-13:50 Jenny
Lefel 6 Uwch (sgwrs) Mercher 13:00-13:50 Tiwtoriaid Canolfan Bedwyr

Cwrs 8 wythnos i ddechreuwyr pur
Lefel: ar gyfer staff sy’n hollol newydd i’r iaith Gymraeg
Ynganu, ymadroddion a deialogau sylfaenol
Tiwtor: Elen Davies

Cysylltwch ag Elen am fwy o wybodaeth.

Cwrs ar gyfer staff sydd wedi cwblhau unedau dechreuol cwrs Cymraeg neu sydd â gwybodaeth syfaenol o’r iaith (ynganu ac ymadroddion rhagarweiniol).
Defnydd o’r amser presennol a’r gorffennol
Lefel: Mynediad 1
Tiwtor: Elen Davies
Bob dydd Llun 13:15–14:00

 

Cwrs i staff sy’n gallu defnyddio’r amser presennol a’r gorffennol sylfaenol (dw i; rôn i; ’nes i ayyb.) Defnydd o’r presennol, gorffennol, a’r dyfodol, dymuniadau a gorchmynion.
Lefel: Mynediad 2 / Sylfaen 1
Tiwtor: Elen Davies
Bob dydd Iau 12:00–12:50

 

Cwrs i staff sydd yn gyfarwydd ag amrywiaeth o batrymau ac amserau, ond sydd angen ennill hyder i’w defnyddio mewn sgwrs sylfaenol.
Adolygu ac ymarfer yr holl batrymau sylfaenol.
Lefel: Pellach 1
Tiwtor: Jenny Pye
Bob dydd Mawrth 13:00–13:50

 

Cwrs i staff sy’n deall ac yn siarad rhywfaint o Gymraeg ond sydd am ennill hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sgwrs o ddydd i ddydd.
Sgwrs Gymraeg ac adolygu patrymau iaith, amser y ferf, ymestyn geirfa.
Lefel: Pellach 2
Tiwtor: Jenny Pye
Bob dydd Llun 13:00–13:50

 

Sesiynau sgwrsio i staff sy’n gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg ac sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Adolygu patrymau, ymestyn geirfa, trafod pynciau yn y Gymraeg.
Lefel: Uwch
Tiwtor: Tiwtoriaid Canolfan Bedwyr
Bob dydd Mercher 13:00–13:30

Cyrsiau Allanol

Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin

Mae cyrsiau mwy dwys (2+ awr yr wythnos) hefyd ar gael am ddim i staff trwy Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin. Mae rhaglen lawn o gyrsiau ar bob lefel ar gael. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost prifysgol wrth gofrestru.

Adnoddau Defnyddiol

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?