Cyrsiau Byd Addysg
Gweithdai ymarferol yw’r cyrsiau byd addysg a’u prif amcanion yw:
- datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
- datblygu ymwybyddiaeth bersonol o reolau iaith a gwallau cyffredin a gallu cymhwyso hyn yn eich gwaith yn yr ysgol / coleg;
- cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio – llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr; geiriaduron; gwefannau termau; offer cywiro cyfrifiadurol – CYSGLIAD ac ati
- gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i’ch gwaith yn yr ysgol / coleg
- eich helpu i ymdrin yn hyderus â gofynion y Fframwaith Llythrennedd
Cyrsiau Agored i Bawb
Gweithdai ymarferol yw’r cyrsiau sy’n agored i bawb a’r prif amcanion yw:
- datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
- datblygu ymwybyddiaeth gyffredinol o reolau iaith a gwallau cyffredin;
- cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio – llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr, geiriaduron, gwefannau termau, offer cywiro cyfrifiadurol – CYSGLIAD ac ati;
- gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i’ch gwaith
Cyrsiau datblygu sgiliau iaith i gwmnïau a sefydliadau allanol
- Rydyn ni hefyd yn cynnal cyrsiau iaith i gwmnïau, asiantaethau a sefydliadau allanol sy’n awyddus i’w staff ddatblygu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u seilio ar ein rhaglen o gyrsiau agored ond gallwn eu teilwra i’ch gofynion trwy drafodaeth. Gallwn eu cynnal yn ein hystafell ddysgu bwrpasol yma yng Nghanolfan Bedwyr neu ddod atoch chi i’w dysgu.
- Rydyn ni’n ceisio cadw’r dosbarthiadau’n fychan fel ein bod hefyd yn gallu rhoi sylw i anghenion unigolion lle bo hynny’n addas. Yr uchafswm o ran nifer mewn dosbarth fel arfer ydy 12.
Dyma rai sefydliadau sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn yn y gorffennol:
- BBC Cymru
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Rhwydwaith Cyfiawnder Gogledd a De Cymru
- Gyrfa Cymru