Mae gan y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ddiddordeb arbennig mewn edrych ar effeithiolrwydd gwahanol ymyriadau gan gynnwys rhaglenni magu plant a rhaglenni yn yr ysgol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau yn dibynnu ar lefel y dystiolaeth ar gyfer y rhaglen. Defnyddir astudiaethau dichonoldeb i weld pa mor dderbyniol yw’r ymyriad i gyfranogwyr ac ymarferwyr, dichonoldeb darparu’r ymyriad mewn lleoliadau go iawn, ac archwiliad cychwynnol o ganlyniadau. Yna cynhelir astudiaethau peilot i edrych ar y canlyniadau ymhellach cyn cynnal hap-dreialon rheoledig i brofi effeithiolrwydd yr ymyriad yn llawn. Mae ein projectau wedi ymchwilio i raglenni magu plant a ddarparwyd i rieni plant â phroblemau ymddygiad, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, anawsterau diffyg canolbwyntio, oediad iaith, gofalwyr maeth; rhaglenni yn yr ysgol i blant gydag anawsterau cymdeithasol-emosiynol, rheolaeth dosbarth i athrawon ac atal bwlio.
Ein prif nod yw ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar ymyrraeth gynnar i blant a theuluoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy weithio'n agos gyda darparwyr gwasanaeth i asesu a oes unrhyw fylchau yn y gefnogaeth i blant a/neu deuluoedd, edrych ar rwystrau i ddarparu ymyriadau, ac edrych ar y defnydd o ymyriadau gyda phoblogaethau gwahanol. Rydym yn gweithio gyda lleoliadau fel ysgolion, meithrinfeydd, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau niwroddatblygiadol, gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed, ac ymwelwyr iechyd.
Uchafbwyntiau ymchwil
Ymyrraeth magu plant mewn gwasanaethau Cychwyn Cadarn i blant sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylder ymddygiad
Hap-dreial rheoledig o effaith rhaglen rheoli dosbarth i athrawon ar ymddygiad plant sydd â phroblemau ymddygiad a phlant sydd heb broblemau ymddygiad yn y dosbarth