Mae’n bwysig gwerthuso a yw ymyriadau yn effeithiol, ond mae hefyd yn bwysig gwybod i bwy maent yn gweithio. Mae gwaith gyda rhaglenni magu plant wedi dangos nad y teuluoedd sy'n cael mynediad at y rhaglenni yw’r rhai sydd fwyaf angen cymorth yn aml. Gall teuluoedd difreintiedig fod yn 'anodd eu cyrraedd' oherwydd diffyg ymgysylltu a/neu anawsterau i gael mynediad at wasanaethau, ond maent yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl difrifol a chymhleth. Y teuluoedd hyn sy’n dueddol o gael y canlyniadau gwaethaf ac yn aml nid ydynt yn cael yr un budd o ymyriadau fel rhaglenni magu plant â theuluoedd mwy breintiedig. Ond mae’n hollbwysig nodi’r teuluoedd sy’n elwa o ymyriadau, nid yw treialon ymchwil yn cael buddsoddiad digonol yn aml ac nid oes ganddynt yr amrywiad priodol i ragweld buddion.
Yn y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, rydym yn cymryd rhan mewn project cydweithredol sydd wedi cronni’r data o dreialon tebyg ledled Ewrop i edrych ar bwy sy’n cael budd o raglenni magu plant. Mae dadansoddiadau wedi edrych ar deuluoedd difreintiedig, plant â phroblemau ymddygiad difrifol, gyda gorfywiogrwydd a phroblemau emosiynol, iselder mamau, ac oedran plant.
Uchafbwyntiau ymchwil
Effeithiau teg ymyriadau magu plant ar broblemau ymddygiad plant