INTERNIAETHAU ÔL-RADD A ARIENNIR I YMCHWILIO I HANES YNYS MÔN
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Prifysgol Bangor yn cydweithio ag Ystad Bodorgan ar Ynys Môn i gynnig dwy interniaeth ymchwil ôl-radd yn ystod Semester 1.
Cafodd Ystad Bodorgan grant gan Lywodraeth Cymru i agor llwybr troed newydd drwy ran o’r ystad, a fydd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r project yn ymgorffori amryw o fentrau i adfer cynefinoedd a dehongliadau o dreftadaeth gymdeithasol a diwylliannol gyfoethog yr ardal.
Caiff yr interniaethau ymchwil eu cynllunio i nodi a llunio naratifau i fod yn rhan o'r dehongliadau treftadol ar gyfer defnyddwyr y llwybr troed. Bydd un o’r interniaethau’n mabwysiadu methodoleg hanes llafar/cyfweliadau, a bydd y llall yn canolbwyntio ar ymchwil archifol o gofnodion yr ugeinfed ganrif a gedwir yn swyddfa ystad Bodorgan.
Mae croeso brwd i geisiadau gan fyfyrwyr ôl-radd neu ymchwilwyr doethurol a fydd yn gofrestredig ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Hydref-Rhagfyr 2022.
Gweler manylebau’r rôl sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 9 Medi, 2022.
GWELER HYSBYSEB - YMCHWIL ARCHIFOL BODORGAN
GWELER HYSBYSEB - HANES LLAFAR BODORGAN