Gwybodaeth am Addysgu wedi'i Gyfoethogi’n Ddigidol
Yn nhirwedd addysg sy’n datblygu’n gyflym, mae technolegau addysgu ar-lein wedi dod yn hollbwysig wrth gyflwyno profiadau dysgu effeithiol. Mae'r symudiad tuag at addysgeg ddigidol yn mynnu bod addysgwyr yn hyddysg wrth ddefnyddio'r technolegau hyn, yn ogystal â’u bod yn addasu eu dulliau addysgu i ymgysylltu myfyrwyr mewn rhith amgylcheddau. Mae gwella galluoedd a hyder staff yn y maes hwn yn hollbwysig i feithrin awyrgylch addysgol cynhyrchiol. Mae’r dudalen hon yn archwilio rhai o’r agweddau sylfaenol ar ddod yn gyfarwydd â thechnolegau addysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar ddatblygu addysgeg ddigidol a gwella sgiliau a hyder staff.
Ar y dudalen hon
Pecyn Cymorth Addysgu wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol: canllawiau, adnoddau ac offer digidol i wella eich ymarfer addysgu
Astudiaethau Achos Addysgu wedi’u Cyfoethogi’n Ddigidol: enghreifftiau o arfer addysgu wedi'i wella'n ddigidol o bob rhan o'r brifysgol
Pecyn Cymorth Addysgu wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol
Mae’r Pecyn Cymorth Addysgu Wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol yn cynnwys dolenni at ganllawiau, adnoddau ac offer digidol i wella eich ymarfer addysgu, yn ogystal â chanllawiau cyfeirio hanfodol i’ch cynorthwyo wrth weithio’n ddigidol ym Mhrifysgol Bangor.
Defnyddiwch y dolenni isod i fynd i'n gwefan SharePoint Pecyn Cymorth Addysgu Wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol ac i weld adnoddau sy’n berthnasol i’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi.
Canllaw i feddalwedd addysgu allweddol a ddefnyddir ym Mhrifysgol Bangor.
Canllaw i feddalwedd addysgu allweddol a ddefnyddir ym Mhrifysgol Bangor.
Ysbrydoliaeth ac arweiniad i gyfoethogi eich addysgu a’ch cwricwlwm, a'r offer a'r systemau digidol sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Ysbrydoliaeth ac arweiniad i gyfoethogi eich addysgu a’ch cwricwlwm, a'r offer a'r systemau digidol sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Gwybodaeth ymarferol hanfodol ar gyfer gweithio ar-lein.
Gwybodaeth ymarferol hanfodol ar gyfer gweithio ar-lein.
Gwybodaeth am systemau a chronfeydd data Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i staff addysgu.
Gwybodaeth am systemau a chronfeydd data Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i staff addysgu.
Manylion cyfleoedd hyfforddi sydd ar y gweill, a dolenni i recordiadau o ddigwyddiadau hyfforddi sydd wedi bod.
Manylion cyfleoedd hyfforddi sydd ar y gweill, a dolenni i recordiadau o ddigwyddiadau hyfforddi sydd wedi bod.