Mae dau Brosiect PhD newydd ar gael i wneud cais amdanynt. DYDDIAD CAU 12 hanner dydd 5 Mai 2025 (Amser y DU). Cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod mwy.
Adfer y Goedwig Law Geltaidd ar gyfer Sero Net – Trawsnewid Defnydd Tir Cyfiawn?
1. Creu eich proffil PURE
CANLLAWIAU CREU EICH PROFFIL PURERHAGOR O WYBODAETH A CHYMORTHMEWNGOFNODI I PURE
2. Rhoi ystyriaeth i’ch hyfforddiant a’ch datblygiad- Mae'n bwysig eich bod yn ystyried eich anghenion hyfforddi a datblygu ar ddechrau eich gradd, ac yn eu trafod gyda'ch goruchwyliwr i ddatblygu cynllun hyfforddi a datblygu. Dylid gwneud hyn cyn pen mis o ddechrau ar eich ymchwil. Ewch i edrych ar raglenni hyfforddi’r Ysgol Ddoethurol, a chwblhewch y Ffurflen Dadansoddi Anghenion Hyfforddi gyda'ch goruchwyliwr. Bydd eich pwyllgor adolygu cynnydd yn gwirio eich bod wedi cynnal dadansoddiad o’ch anghenion hyfforddi, a gallwch ddefnyddio’r ffurflen honno fel tystiolaeth eich bod yn rhoi sylw i hyfforddiant a datblygiad.
3. Adolygiad llenyddiaeth a chynllun project- dylent fod yn barod erbyn eich Adolygiad Cynnydd cyntaf
CANLLAWIAU AR SUT I BARATOI EICH ADOLYGIAD LLENYDDIAETH A’CH CYNLLUN PROJECT
Blwyddyn 1 (MscRes, MPhil, PhD)
Aseiniad | Dyddiad cyflwyno |
1. Cynllun project ac adolygiad llenyddiaeth* | I’w drafod gyda’ch goruchwylwyr a’i gyflwyno i’ch pwyllgor erbyn eich cyfarfod adolygu cyntaf. |
2. Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi | I’w drafod gyda’ch goruchwyliwr yn ystod eich mis cyntaf – yna adolygu cyn pob adolygiad cynnydd |
3. Creu proffil gwe ar-lein ar PURE | O fewn tri mis cyntaf eich gradd |
4. Cyflwyniad project Blwyddyn 1 | Ionawr (Ebrill hefyd o bosib) |
5. Adolygiad cynnydd |
MScRes: o fewn 4-5 mis ar ôl cofrestru (e.e. Chwefror ar gyfer pobl sy’n dechrau ym mis Hydref) PhD: o fewn 9 mis ar ôl cofrestru (e.e. Mai-Mehefin ar gyfer pobl sy’n dechrau ym mis Hydref) |
*Gallwch anfon adolygiadau llenyddiaeth at eich goruchwyliwr, yn ogystal â'u llwytho i fyny trwy Turnitin ar wefan Blackboard Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg (gwiriad llên-ladrad). Dylai eich goruchwylwyr fynd drwy adroddiad Turnitin gyda chi os oes unrhyw broblemau.
Blwyddyn 2 (MPhil, PhD)
Aseiniad | Dyddiad cyflwyno |
1. Cyflwyniad poster mewn cynhadledd PhD | Mis Mai’r 2il flwyddyn |
2. Adolygiad cynnydd | 21 mis ar ôl cofrestru |
Blwyddyn 3 (PhD)
Aseiniad | Dyddiad cyflwyno |
1. Cyflwyniad llafar mewn cynhadledd PhD | Mis Mai’r 3edd flwyddyn |
2. Adolygiad cynnydd | 33 mis ar ôl cofrestru |
Mae'n ofynnol i bob Ymchwilydd Ôl-raddedig gwblhau adolygiad cynnydd bob blwyddyn yn ystod eu cyfnod yn y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Dyma ganllaw cyffredinol ar gyfer y Coleg cyfan. Efallai y bydd gwahaniaethau bach rhwng ysgolion a’i gilydd, ac os felly dylech ddilyn unrhyw ganllawiau sy’n benodol i’ch ysgol chi.
CANLLAWIAU ADOLYGIAD ÔL-RADD YMCHWIL
MYNEDIAD I'R SYSTEM ADOLYGU CYNNYDD
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch:
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Aaron Comeault
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg: William Teahan
Ysgol Gwyddorau Eigion: James Waggitt
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda’ch manylion ar y system, cysylltwch â: Gweinyddu Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Anogir pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg i chwarae rhan weithredol mewn un neu fwy o grwpiau neu themâu ymchwil. Dysgwch fwy trwy ymweld â thudalennau gwe ysgolion unigol.
MEYSYDD YMCHWIL YR YSGOL GWYDDORAU AMGYLCHEDDOL A NATURIOLTHEMÂU YMCHWIL YSGOL GWYDDORAU’R EIGION
Gwahoddir pob myfyriwr ôl-radd ymchwil i gymryd rhan yn yr Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Ymchwil bob blwyddyn (tua Mawrth-Mai). Mae'r arolwg yn cynnwys 9 thema, a gallwch chi gymryd trosolwg o'ch cwrs yn ogystal â rhoi sylwadau ar ôl pob adran os ydych chi'n dymuno gwneud hynny. Dim ond 10 munud y mae'n ei gymryd i'w gwblhau ar-lein, trwy ddolen ar y rhestr o bethau i’w gwneud yn FyMangor. Yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg, mae pob Ysgol yn paratoi Cynllun Gweithredu Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Ymchwil mewn ymgynghoriad â’u myfyrwyr ôl-radd ymchwil. Bydd y cynlluniau gweithredu ar gael i staff o fis Gorffennaf ymlaen a byddant yn cael eu defnyddio i wella profiad myfyrwyr ôl-radd a darpar fyfyrwyr. Cofiwch rannu eich profiadau gyda ni!
Mae'n bwysig bod myfyrwyr ôl-radd ymchwil yn cynnal asesiadau risg priodol ar gyfer eu holl waith.
Sylwch fod y tudalennau hyn yn y broses o gael eu diweddaru, ond yn dal i ddangos gwybodaeth ddefnyddiol.
Rhaid i bob ymchwil gan fyfyrwyr ôl-radd ymchwil gael ei sgrinio yn defnyddio ffurflen foeseg Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg, ac os oes angen, ei gymeradwyo gan y pwyllgor moeseg.
Sylwch fod y tudalennau hyn yn y broses o gael eu diweddaru, ond yn dal i ddangos gwybodaeth ddefnyddiol.
Cyfleoedd hyfforddi ar gyfer myfyrwyr ôl-radd ymchwil
Mae tîm y Gwasanaethau Cyllid yn darparu gwasanaeth canolog yn y brifysgol ar gyfer gweithgareddau megis caffael, hawliadau teithio a chynhaliaeth a chymorth gyda blaensymiau ar gyfer gwaith maes rhyngwladol. Yma fe welwch ganllawiau ynghylch gweithdrefnau a dolenni cyswllt
GWASANAETHAU CYLLIDPOLISÏAU A FFURFLENNICWESTIYNAUPOLISÏAU A FFURFLENNI
CWESTIYNAU CYFFREDIN AR GYFER MYFYRWYR COLEG GWYDDONIAETH A PHEIRIANNEG
Cynhelir Cynhadledd Ddoethurol Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym mis Mai. Gwahoddir myfyrwyr PhD y drydedd flwyddyn (neu gyfwerth) i roi anerchiad (15 munud + 5 munud o gwestiynau), bydd myfyrwyr PhD yr ail flwyddyn (neu gyfwerth) yn cael eu gwahodd i gyflwyno anerchiad byr (3 munud + 2 funud o gwestiynau) ac i gyflwyno poster. Mae'n rhaid cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad, felly, cadwch lygad ar eich e-byst am y ddolen i gofrestru. Caiff yr e-bost ei anfon fel arfer ym mis Chwefror. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Digwyddiadau Ôl-radd Ymchwil.
Anerchiadau’r flwyddyn gyntaf ac MScRes: Mae'n ofynnol i fyfyrwyr PhD ac MScRes blwyddyn gyntaf gyflwyno anerchiad (10 munud + 5 munud o gwestiynau) yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Trefnir cyfle i chi gyflwyno o fewn eich ysgol. Mae'n rhaid cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad, felly, cadwch lygad ar eich e-byst am y ddolen i gofrestru. Caiff yr e-bost ei anfon fel arfer ym mis Tachwedd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Digwyddiadau Ôl-radd Ymchwil.
Rhai awgrymiadau defnyddiol wrth lunio anerchiadau a phosteri:
GWYLIWCH FIDEO YN RHOI CYNGHORION YNGHYLCH ANERCHAIDAU EFFEITHIOL
Pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch traethawd ymchwil, mae angen i chi ei gyflwyno trwy Turnitin, ar Blackboard.
- Goruchwylwyr: dyma’r lle cyntaf y dylech droi am gefnogaeth fel myfyriwr ôl-radd ymchwil.
- Bydd eich cyd–fyfyrwyr ôl-radd ymchwil hefyd yn ffynhonnell dda o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol yn ystod eich gradd ymchwil.
- Cadeirydd/Tiwtor Personol: Os oes arnoch chi eisiau trafod rhywbeth gyda rhywun heblaw eich goruchwyliwr, efallai oherwydd fod yr hyn yr hoffech ei drafod yn ymwneud â’ch goruchwyliwr, neu ei fod yn fater personol a allai effeithio ar eich ymchwil ac y byddai’n well gennych beidio â’i drafod gyda’ch goruchwyliwr, at eich cadeirydd/tiwtor personol y dylech droi nesaf.
- Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol. Os nad yw'r prif niferoedd mathemategol o bethau gyda'ch goruchwyliwr a/neu eich rolau, siaradwch ag arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig eich ysgol (Cyfrifiadureg a Pheirianneg: Bill Teahan, Gwyddorau Eigion: James Waggitt, Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Nat Fenner).
- Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-Radd Y Coleg: Os nad yw opsiynau 1-4 yn gweithio (neu os mai eich goruchwyliwr neu’ch cadeirydd yw arweinydd ymchwil ôl-radd yr ysgol hefyd), cysylltwch â Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd y Coleg, Alex Georgiev.
Os oes gennych ymholiadau am faterion gweinyddol, e.e. cofrestru, gohirio astudiaethau, tynnu'n ôl, cywiro problemau gyda'ch cofnod ar FyMangor/Banner ac ati, cysylltwch â Cefnogaeth Weinyddol Ymchwil Ôl-radd Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Os oes gennych gwestiynau am sesiynau cynefino neu gynadleddau ac anerchiadau ôl-radd ymchwil, cysylltwch â Digwyddiadau Ôl-radd Ymchwil Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Cefnogaeth a gwasanaethau eraill:
Mae ffurflenni defnyddiol ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-radd yn cynnwys: gohirio astudiaethau dros dro, tynnu'n ôl o’ch astudiaethau, ymestyn fisa ac ati, i’w cael ar dudalennau gwe’r adran Gweinyddu Myfyrwyr. Ceir yno, ymhlith pethau eraill, restr o gysylltiadau defnyddiol a chanllaw Cwestiynau Cyffredin.
Gwneir ceisiadau am estyniad ar gyfer dyddiadau cyflwyno Traethodau Ymchwil yn y Ganolfan Geisiadau ar Fy Mangor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm gweinyddu myfyrwyr ymchwil ôl-radd.
Cysylltiadau defnyddiol eraill
Cyfarwyddwyr Astudiaethau Ôl-radd y Coleg a’r Ysgolion:
Dr Alexander Georgiev, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig y Coleg ac Uwch Ddarlithydd
Dr Aaron Comeault, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ac Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Biolegol yn Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol.
Dr Willian Teahan, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd ac Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
Dr James Waggitt, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd a Darlithydd Addysgu ac Ymchwil mewn Bioleg Môr/Ecoleg yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion
Pobl a Chysylltiadau
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
Aron Owen
Ben Winter
Gareth Stephens
Glory Ogbonda
Josh Davies
Leena Farhat
Preben Vangberg
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
Amelia Harvey
Joe Roy
Lucas Jack Le Brun
Perpetua Ifiemor
Pooja Padmakumar
Ruby Richards
Ysgol Gwyddorau’r Eigion
Edward Roome
Guy Walker-Springett
Megan O'Hara
Sijing Shen
Gweinyddu:
Chris Parry, Gweinyddwr Ôl-radd Ymchwil yn yr adran Gweinyddu Myfyrwyr
Dr Emma Green Gweinyddwr Sefydliad Ymchwil y Coleg