Mae Canolfan Brailsford yn gweithio mewn partneriaeth â 'LEAF Health', sydd yn gweithredu clinig therapi lloeren yn y ganolfan chwaraeon. Mae'r triniaethau'n cynnwys:
- Meddygaeth Ffordd o Fyw a Hyfforddi Iechyd
- Therapi Chwaraeon a Thylino
- Osteopathi
- Aciwbigo
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan LEAF neu ewch i'r dudalen Facebook LEAF a Canolfan Brailsford.
Archebwch ar-lein yn Brailsford yma, neu ffoniwch y clinig ym Mhorthaethwy ar: 01248 717744.
*Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor, staff ac aelodau Campfa Brailsford yn cael 10% oddi ar apwyntiadau.*
Ynglŷn â ‘LEAF Health’ (a sefydlwyd yn 1980)
Yn y pum clinig LEAF mae yna fwy na 60 o therapyddion ac ymgynghorwyr sy'n arbenigo mewn dros 45 o therapïau gwahanol. Beth bynnag ydy eich problem neu anhwylder, mae'n debygol y bydd rhywun sy'n gallu eich helpu chi.
Ewch i'r wefan a chliciwch ar unrhyw therapi i ddarganfod mwy. Os nad ydych yn siŵr beth fyddai orau i chi, siaradwch â'n staff yn y dderbynfa i gael eich cyfeirio yn y cyfeiriad cywir neu eich rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r tîm iechyd.
Mae pob un o'r therapyddion a staff LEAF yn cydweithio fel tîm. Maent i gyd yn cael eu cymell gan yr un uchelgais sydd wedi ysgogi ymdrechion sylfaenwyr Iechyd LEAF am gymaint o flynyddoedd - "i helpu pobl o unrhyw oedran neu allu corfforol i wella ansawdd eu bywyd". Felly, pwy bynnag y byddwch chi'n dod i weld, gallwch chi gymryd cysur wrth wybod y cewch help ac arbenigedd tîm cyfan o arbenigwyr iechyd profiadol ac ymroddedig.