Yr anawsterau gyda gorchmynion trefniadau plant yn ystod y Nadolig
Ruth Roberts
Nawr mae'r tymor gwyliau yn agosau, gall trefniadau Nadolig ar gyfer plant fod yn anodd ac yn straen, yn enwedig i deuluoedd sydd â rhieni newydd ysgaru neu wahanu.
Pan mae eich plant yn byw rhwng dau gartref, gall fod dipyn o wrthdaro a ffraeo wrth drosglwyddo o un rhiant a’r llall, er bod trefniadau ymarferol wedi ei rhoi yn ei lle. Mae’r cyfnod y Nadolig yn gwneud hyn yn anoddach byth i'r rhieni a'r plentyn, a'u hangen i dreulio amser gyda'r ddau deulu.
Er bod trefniadau a sefyllfaoedd ddim yn gweithio i bawb, Mae yna bethau ymarferol gall teuluoedd gwneud ar gyfer y Nadolig sydd yn gweithio i bawb. Er enghraifft, gall rhannu tri diwrnod Nadolig yn ei hanner, treulio noswyl Nadolig gyda rhiant, bore Nadolig gyda’r rhiant arall, ac wedyn yn ôl at y rhiant cyntaf am brynhawn Nadolig. Neu gall treulio diwrnod cyfan gydag un rhiant diwrnod Nadolig, a threulio diwrnod San Steffan gyda’r ail riant er mwyn dathlu ei ail ddiwrnod Nadolig. Maen syniad clywed barn y plant am beth yw ei dymuniadau nhw, yn ddibynnol wrth gwrs ar ei oedran.
Fel rydym yn ymwybodol, rhan amlaf mae’r gwyliau ysgol Nadolig dros gyfnod o bythefnos. O ganlyniad efallai gall y rhieni cytuno bod y plant gydag un rhiant am un wythnos, a gyda’r ail riant am yr ail wythnos o’r gwyliau ysgol.Ac wedyn bod yn drefniant yma yn newid bob yn ail flwyddyn.
Mae deddf teulu 1996 yn nodi bod anghenion plant i weld y ddau riant yn bwysicach na theimladau negyddol bydd un rhiant yn teimlo am wario’r Nadolig gyda’i gilydd. Unwaith byddwch wedi cytuno ar y trefniadau, mae angen bod yn bositif er lles y plant.
Dylai’r ddau riant sicrhau bod llesiant y plant yn cael blaenoriaeth dros unrhyw anghytundebau personol neu elyniaeth. Mae angen canolbwyntio ar greu ymdeimlad o sefydlogrwydd a chysondeb iddynt, hyd yn oed os yw hyn yn golygu cyfaddawdu.
Os ydych yn dal i gael trafferth gyda'r trefniadau, yna gallwch roi cynnig ar gyfryngu teuluol (family mediation), neu gallech wneud cais i’r llys am orchymyn trefniant plant.
Mae gorchymyn trefniadau plant yn gytundeb cyfreithiol sy’n rheoleiddio ble mae plentyn yn byw, gyda phwy y mae’n treulio amser, a phryd y gallant ddod i gysylltiad ag eraill:
- Ble mae’r plentyn yn byw
- Pa bryd mae’r plentyn yn treulio amser gyda’r rhieni
- Pryd a pa fath o gyswllt sydd yn cymryd lle
Mae gorchymyn trefniadau plant yn cael ei wneud ar ôl i berthynas torri lawr, ac maent yn cymryd lle ‘Gorchmynion Cyswllt’ (‘Contact Orders’) a ‘Gorchmynion Preswylio’ (‘residence Orders’). maent yn cael eu gwneud gan y llys teulu ac maent yn seiliedig ar amgylchiadau'r teulu unigol a'r hyn sydd er lles gorau'r plentyn.
Mae cymal 8 o Ddeddf Plant 1989 yn rhoi pŵer i’r llysoedd gyhoeddi gorchmynion i reoleiddio trefniadau ar sut mae plentyn yn byw a threfniadau cyswllt
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar gorchmynion trefniadau plant. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk