Trefnu Galwad neu Sgwrs Fideo
Mae ein hacademyddion cyfeillgar yn barod i drafod eich opsiynau, ateb eich cwestiynau am y cwrs, a'ch tywys drwy'r broses Clirio. Dewiswch arbenigwr yn y maes sydd o ddiddordeb i chi a threfnu slot amser cyfleus.

Yr Athro Christian Dunn
Ydych chi'n ystyried dyfodol mewn cynaliadwyedd, yr amgylchedd, bioleg, sŵoleg neu'r gwyddorau naturiol? Manteisiwch ar gyfle unigryw i sgwrsio gyda'r Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt Prifysgol Bangor dros Gynaliadwyedd. Mae'r Athro Dunn yn arbenigwr mewn atebion seiliedig ar natur, ansawdd dŵr, a llygredd plastig. Gallai ei fewnwelediadau fod yn amhrisiadwy wrth eich helpu i benderfynu a yw Bangor yn addas ar gyfer eich nodau academaidd. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael gwybodaeth uniongyrchol gan ffigwr blaenllaw ym maes gwyddoniaeth amgylcheddol.

Dr Martyn Kurr
Rwy'n ddarlithydd mewn bioleg forol ac ecoleg. Mae fy arbenigeddau ymchwil yn cynnwys rhywogaethau anfrodorol, ecoleg algâu, a llygredd microplastig. Mae fy addysgu yn ymgorffori technegau arloesol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr a phedagogeg weithredol i hwyluso ymgysylltiad myfyrwyr.

Dr Jonathan Ervine
Rwy'n Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffrengig a Ffrancoffon, ac yn arbenigo mewn diwylliant poblogaidd Ffrengig yn ogystal â dadleuon am hunaniaeth a pherthyn yn Ffrainc gyfoes. Rwy'n awdur dau lyfr; Humour in Contemporary France: Controversy, Consensus and Contradictions (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2019) a Cinema and the Republic: Filming on the Margins in Contemporary France (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013). Rwyf hefyd wedi cyhoeddi sawl erthygl a phennod llyfr am ddadleuon ar hunaniaeth genedlaethol Ffrengig mewn chwaraeon, cerddoriaeth a chomedi, ac wedi ysgrifennu sawl erthygl am gemau fideo yn Ffrainc.

Yr Athro Fran Garrad-Cole
Mae'r Athro Fran Garrad-Cole yn Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, ac yn darlithio mewn Seicoleg. Mae ganddi brofiad sylweddol o arwain a datblygu prosiectau arloesi addysgu a dysgu sefydliadol. Mae hi'n raddedig o Brifysgol Bangor, wedi ennill BSc mewn Seicoleg a PhD mewn Seicoleg Wybyddol Datblygiadol.