Does gen i ddim cyfrif UCAS, sut ydw i’n gwneud cais trwy’r drefn Clirio?
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais, yn gyntaf mae angen i chi gofrestru a gwneud cais fel ymgeisydd unigol. Yn wahanol i wneud cais cyn y cyfnod Clirio, dim ond ar ôl i chi gyflwyno'ch cais y byddwch chi'n gallu ychwanegu dewis. Bydd UCAS yn anfon e-bost croeso atoch gyda manylion am sut i gael mynediad at UCAS a'ch rhif Clirio.
I gofrestru, dilynwch y cyswllt isod:
Cofrestru ar gyfer cyfrif UCAS
Sut ydw i’n ychwanegu Dewis Clirio?
Ar ôl i chi gofrestru a chyflwyno'ch cais, bydd angen i chi fynd i'r adran 'Your Choices' yn UCAS a chlicio 'Add Clearing Choice.' Dylech wneud hyn ar ôl i chi siarad â'r Brifysgol a chadarnhau bod gennych le trwy Clirio. Yna nodwch fanylion y cwrs rydych chi'n gwneud cais amdano.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Clirio
Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.