Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol TAR Cynradd wedi’i chynllunio i roi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu a bydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro creadigol ac arloesol. Ar y rhaglen hon bydd ffocws ar Anghenion Dysgu Ychwanegol neu 'ADY', sef term a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau neu anableddau dysgu sy’n ei gwneud hi’n anoddach i blentyn ddysgu o’i gymharu â phlant o’r un oedran.
Mae'r radd hon yn canolbwyntio ar anghenion addysgol arbennig, byddwch yn dysgu am ddatblygiad plant trwy 3-11 oed, gan gynnwys dysgwyr niwroamrywiol. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant ag ADY trwy gydol eu dysgu a gwahanol ddulliau addysgu ar gyfer gwahanol ddysgwr. Trwy gydol eich astudiaethau gyda ni ym Mhrifysgol Bangor byddwch yn cael eich cefnogi i ddod yn athro rhagorol.
Mae gennym nifer o bartneriaethau yma ym Mhrifysgol Bangor sy'n cyfoethogi eich profiad dysgu. Mae’r rhaglen ei hun yn cael ei llunio, ei chyflwyno a’i hasesu ar y cyd gyda’n rhwydwaith o bartneriaethau ysgol rhagorol ar draws y rhanbarth. Bydd ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi'ch cynnydd tuag at Statws Athro Cymwysedig yn unol â Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd ein tîm o diwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi cefnogaeth ardderchog a sesiynau ysgogol i chi gan eich paratoi i fod yn athro rhagorol. Mae'r rhaglen hon Anghenion Dysgu Ychwanegol TAR Cynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei chydnabod ledled Cymru a Lloegr, ac yn aml mae'n gymhwyster trosglwyddadwy mewn gwledydd eraill i gael mynediad i'r proffesiwn addysgu.**
**Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.
Nid oes angen i chi fod yn byw yng Nghymru na gallu siarad Cymraeg i wneud cais am y cwrs. Byddwn yn eich cefnogi yn eich dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru ac i ddysgu Cymraeg, p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n defnyddio’r iaith yn rhugl.
Pam astudio gyda ni?
- Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cyswllt tuag at Statws Athro Cymwysedig yn unol â Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
- Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a enillir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt.
- Nid oes angen i chi fod yn byw yng Nghymru na gallu siarad Cymraeg i wneud cais am y cwrs. Byddwn yn eich cefnogi yn eich dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru ac i ddysgu Cymraeg, p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n defnyddio’r iaith yn rhugl.
Gofynion Mynediad
Gofynion mynediad ar gyfer 2024
- Gradd israddedig mewn maes sy'n gysylltiedig â’r pwnc a astudir ar o leiaf 2.ii safon Anrhydedd (neu gyfwerth).
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol o ran ceisio gwella eu defnydd personol o'r Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio’r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad iechyd.
- Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni trylwyredd a gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau ar gyfer ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Gofynion academaidd eraill
- Gradd C/4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg iaith gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd hefyd.
- TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol. IELTS lefel 7 yn gyffredinol (heb unrhyw elfen dan 6.5) neu gyfwerth.
Gwybodaeth Bwysig
I addysgu, rydych angen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn seiliedig mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y Deyrnas Unedig.
Gyrfaoedd
Mae TAR Cynradd gyda SAC yn cael ei chydnabod ledled Cymru a Lloegr, ac yn aml mae'n gymhwyster trosglwyddadwy* mewn gwledydd eraill i gael mynediad i'r proffesiwn addysgu. Mae'n eich paratoi'n llawn ar gyfer gofynion addysgu yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y rhaglen TAR hon yn arbennig yn eich paratoi i weithio mewn Ysgolion Arbennig a/neu gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.
*Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi o fewn addysg ac yn datblygu sgiliau arwain hanfodol. Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau disgyblion, a hynny'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Ym mhartneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori ac ymchwil ddiweddaraf ar arweinyddiaeth. Mae'r arbenigedd ymchwil hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon a'r datblygiadau sylweddol ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol o ran datblygu timau arweinyddiaeth cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig lleoliadau byr mewn ysgolion cynradd ac/neu ysgolion arbennig a/neu mewn lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, i sicrhau eich bod yn cael profiad ehangach sy'n benodol i'ch diddordebau unigol.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses gwneud cais ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn safonol gwneud cais am gyrsiau ôl-radd Prifysgol Bangor. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais am hyfforddiant athrawon wneud cais drwy'r system UCAS Israddedig. Edrychwch ar dudalennau UCAS i gael rhagor o wybodaeth.