Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol yn ffordd arloesol a hyblyg o astudio am radd gan weithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs gradd ar gael i rai a gyflogir yn unig. Cyflwynir y dysgu un diwrnod yr wythnos yng Ngrŵp Llandrillo Menai am y ddwy flynedd gyntaf, ac ym Mhrifysgol Bangor am y flwyddyn olaf.
Datblygwyd y Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol ar y cyd â byd diwydiant i sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol i ofynion y sector TG a datblygiad y gweithlu. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar Wyddor Data, gan gyfuno dysgu academaidd traddodiadol â dysgu seiliedig ar waith.
Mae'r llwybr gwyddor data gymhwysol yn ymwneud â rheoli a dadansoddi 'data'. Mae'n canolbwyntio ar amrywiol offer rhaglennu a dadansoddi y gellir eu defnyddio i helpu busnesau i brosesu data.
Ymhlith y pynciau astudio nodweddiadol mae rhaglennu gyda mathemateg Python ar gyfer cyfrifiadura, cyflwyniad i systemau cyfrifiadurol, rheoli data mewn cronfeydd data gydag SQL, sut mae dadansoddi data a'r offer a ddefnyddir yn y broses ddadansoddi.
Caiff sgiliau ategol eu datblygu hefyd megis nifer o sgiliau mathemategol sylfaenol sydd eu hangen i ddadansoddi data a moeseg a gofynion cyfreithiol casglu data. Yn y flwyddyn olaf byddwch yn astudio meysydd fel dysgu peirianyddol, rheoli data uwch, delweddu gwybodaeth a diogelwch. Byddwch hefyd yn ymgymryd â dau broject, un mewn deallusrwydd artiffisial, a'r llall mewn delweddu.
Ar ôl cwblhau dwy flynedd o'r cwrs gellir ennill gradd FdSc fel cymhwyster ymadael, sydd wedi ei achredu dan y Fframwaith Prentisiaethau Uwch trwy'r Tech Partnership, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer TG.
Os ydych yn chwilio am gwrs prifysgol sy'n berthnasol i'r sector TG ac y gellir ei gwblhau wrth i chi weithio, yna mae'r BSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn ddelfrydol. Bydd y rhaglen radd o fudd i chi ac yn hybu eich gwybodaeth a'ch cyfleoedd gyrfa, ac yn hybu llwyddiant eich cyflogwr hefyd.
Hyd
Fel rheol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd.
Lleoliad
Am y ddwy flynedd gyntaf, fel rheol ymgymerir â'n rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol mewn colegau naill ai yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam neu Landrillo-yn-Rhos, a dysgir ein rhaglenni gradd-brentisiaethau peirianneg mewn colegau yn Llangefni neu Landrillo-yn-Rhos Dysgir blwyddyn olaf y brentisiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Ariennir y cwrs hwn yn llawn gan Gyngor Addysg Uwch Cymru. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gradd heb unrhyw ddyled ac mae'ch cyflogwr yn cael aelod staff sydd â mwy o sgiliau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r busnes.
- Y cyfraniad y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud yw eich rhyddhau o'r gwaith i fynd i'r coleg neu'r brifysgol un diwrnod yr wythnos.
- Rydych chi'n aros mewn gwaith wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn dechrau ar y lefel sydd fwyaf priodol iddyn nhw, yn seiliedig ar brofiad perthnasol neu addysg flaenorol. Mae hyn yn golygu na ofynnir i chi ailadrodd unrhyw beth rydych wedi ei gyflawni o'r blaen, ond yn hytrach adeiladu ar wybodaeth sydd eisoes gennych ac ymestyn eich potensial yn y dyfodol.
- Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen hon yn elwa o allu cynyddu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfa. Yn y pen draw, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i helpu busnes eich cyflogwr i ddatblygu.
- Bydd holl adnoddau’r coleg a'r brifysgol ar gael i chi, gan roi hyblygrwydd dau amgylchedd dysgu deinamig i chi.
Gofynion Mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.
Sut i wneud cais
Ar gyfer pob Gradd-brentisiaeth, gwnewch gais yn uniongyrchol gyda chymorth ein Nodiadau Canllaw.
Ar ôl i chi ddarllen y canllawiau, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein.