Os ydych chi'n dewis byw yn y sector preifat, neu os ydych yn byw yng nghyffiniau Bangor ac yn bwriadu teithio i Fangor bob dydd yn bendant mae angen i chi fod ym Mangor erbyn 30 o Medi.
Chwilio am Lety Preifat?
Os ydych chi'n chwilio am lety yn y sector preifat neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'ch tenantiaeth, ewch i wefan y Swyddfa Tai Myfyrwyr am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.
A fyddwch yn byw gartref yn ystod eich astudiaethau?
Cofiwch fod yr Wythnos Groeso ar gyfer POB myfyriwr newydd, p'un a ydych yn teithio i'r Brifysgol yn ddyddiol, yn byw yn llety'r Brifysgol, neu'n byw mewn llety preifat.
Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn dod i’r digwyddiadau hyn os ydych yn byw gartref yn ystod eich astudiaethau. Ynghyd â digwyddiadau academaidd gorfodol, bydd digon o gyfle i gymdeithasu hefyd, fel y gallwch wneud y canlynol:
- cyfarfod â myfyrwyr newydd eraill
- dysgu mwy am beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr
- cyfarfod â staff a myfyrwyr presennol
- dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y Brifysgol.
Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso yma.
Trwydded Parcio Car
CEIR RHAGOR O WYBODAETH AR SUT I GAEL TRWYDDED PARCIO MYFYRWYR YMA
Amserlen
Dylai eich amserlen bersonol fod ar gael 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gofrestru ar-lein. Fe welwch eich amserlen ar fyMangor yma..
Os credwch fod eich amserlen yn anghywir neu ar goll, cysylltwch â'r Tîm Gweinyddu Myfyrwyr drwy ymweld â nhw ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau neu drwy anfon e-bost at gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk
Cefnogaeth Cyn Dechrau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn yr Wythnos Groeso neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar fywyd y Brifysgol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk. Os byddai'n well gennych gwrdd â ni wyneb yn wyneb, rydym hefyd yn cynnig dwy sesiwn galw heibio y gallwch ddod iddynt. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Neuadd Rathbone (ystafell i’w chadarnhau) ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Iau 26/09/2024 3:00 – 4:00pm
- Dydd Mercher 02/10/2024 1:00 – 2:00pm