Gall myfyrwyr gofrestru yn Llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau ar y diwrnodau ac amseroedd isod:
- Dydd Llun - Dydd Gwener (30 Medi - 4 Hydref);
- Dydd Llun - Dydd Gwener (7 - 11 Hydref);
- Dydd Llun - Dydd Gwener (14 - 18 Hydref);
- Y cyfan rhwng 10am a 4pm bob dydd.
Rhaid i fyfyrwyr Coleg Rhyngwladol Prifysgol Bangor fynd i'r coleg cyn mynd i wirio eu dogfennau adnabod.
Bydd cardiau myfyrwyr ar gael wrth gofrestru i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar-lein.
Os ydych wedi ymrestru ar ôl cyrraedd, bydd eich cerdyn myfyriwr ar gael yr wythnos ganlynol.
Os nad oes gennych lety wedi'i archebu ar gyfer astudio ym Mhrifysgol Bangor, efallai y bydd lleoedd ar gael o hyd mewn Neuaddau Preswyl ar y campws. Ewch i'r Swyddfa Neuaddau ar safle Ffriddoedd neu ewch i https://www.bangor.ac.uk/llety am fwy o wybodaeth. E-bost Cyswllt: neuaddau@bangor.ac.uk
I'r rhai sy'n dymuno byw oddi ar y campws, mewn llety preifat, gall y swyddfa Llety Myfyrwyr yn Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg helpu. Edrychwch ar https://www.bangorstudentpad.co.uk a chyfeiriad e-bost yr adran Llety Myfyrwyr yw taimyfyrwyr@bangor.ac.uk
Cysylltwch â'ch Tiwtor Personol yn eich ysgol ar ôl cyrraedd i dderbyn gwybodaeth bwysig ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd.
Mae gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/cymorth-iechyd-a-lles
Mae gwybodaeth fanylach am lesiant a chefnogi myfyrwyr ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/index.php.cy
I fyfyrwyr rhyngwladol: Mae'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg ac mae ar agor rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. E-bost: internationalsupport@bangor.ac.uk