Eitemau o'r casgliadau
Cliciwch ar yr eicon ar waelod y llun i weld disgrifiad o'r eitem.
Manylion am ein casgliadau
Mae Casgliad Celf y Brifysgol yn cynnwys tua 600 darn o waith sydd yn dyddio o’r 17eg i’r 20fed ganrif. Mae'r casgliad yn creu ased artistig a diwylliannol pwysig ar gyfer y Brifysgol a Chymru gyfan.
Ceir cynrychiolaeth dda o artistiaid Cymreig, yn cynnwys
- Brenda Chamberlain
- David Jones
- Edward Povey
- Peter Prendergast
- Gwilym Pritchard
- Ceri Richards
- Will Roberts
- Evan Walters
- Catrin Webster
- Claudia Williams
- Kyffin Williams
Nid yw'r casgliad wedi'i gyfyngu i Gelf Gymreig yn unig, ac mae'n cynnwys peintiadau gwerthfawr gan artistiaid Prydeinig megis
- Edward Wadsworth
- Paul Nash
- Winifred Nicholson
- Sandra Blow
ac artistiaid Ewropeaidd megis Guido Rossi.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith celf wedi cael ei osod ar waliau'r Brifysgol, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau'n benodol, sydd yn gwneud yr amgylchedd yn fwy dymunol i'r llygaid, yn fwy diddorol a chyffrous. Gall aelodau'r cyhoedd ymweld â Phrif Adeilad y Celfyddydau yn ystod yr amser pan fo'r Brifysgol ar agor.
Ychwanegwyd peintiadau olew ac acrylig y Casgliad Celf at y Public Catalogue Foundation ac maent ar gael yn http://artuk.org/discover/artworks/
Mae'r Casgliad Cerameg yn cynnwys tua 500 o ddarnau, sydd yn cael eu harddangos a'u storio.
O'i gweld gyda'i gilydd, mae'n creu arolwg hanesyddol cryno o ddatblygiad llestri Tsieina domestig.
Ceir enghreifftiau da o lestri pridd wedi’u gwneud o wydredd tun cynnar Prydeinig ac Ewropeaidd, porslen Meissen cynnar ac enghreifftiau o Dsieina a phorslen o'r 18fed a 19eg ganrif o Abertawe, Bow, Chelsea, Derby, Lowestoft, Caerwrangon, Caughley, Coalport, Plymouth a ffatrïoedd eraill yn Swydd Stafford. Mae'r casgliad yn cynnwys eitemau o borslen Tsieineaidd sydd yn dyddio o'r 16eg hyd at y 19eg ganrif, darnau Siapaneaidd ac enghreifftiau o lestri Imari, ynghyd ag eitemau gwydr Seisnig ac Ewropeaidd o'r 18fed a'r 19eg ganrif.
Mae'r casgliad yn cael ei arddangos ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau mewn safle urddasol yng Nghoridor Siambr y Cyngor. Mae ar gael i'w weld yn ystod oriau agor y Brifysgol heb orfod gwneud trefniadau arbennig.
Mae'r casgliad o Offerynnau Cerddorol yn cynnwys tua 600 o offerynnau yn ogystal â 325 o offerynnau clai cyn-Golumbaidd. Lluniwyd y casgliad o offerynnau cerddorol ethnograffig gan Peter Crossley-Holland (1916-2001), cerddolegwr a chyfansoddwr a oedd yn arloeswr yn yr astudiaeth o ethnogerddoleg. Mae’r rhain ymysg y 10 casgliad gorau yn y byd o wrthrychau cerddorol cyn-Golumbaidd ac yn un o asedau diwylliannol mwyaf gwerthfawr y Brifysgol.
Daw'r offerynnau o bob cwr o'r byd, yn cynnwys Ewrop, Affrica, Mecsico, Gogledd America, India a Thibet, er enghraifft ceir corn bibau dwbl, ysgrafellod cregyn, clychau gafr a chwibanau pilen o Sbaen; chwiban aderyn a chlapiau o'r Almaen; ratl rhisgl Iroquois o ogledd America; ratl llithro a phibell swynwr nadroedd o'r India a chloch llaw o Gambodia.
Ceir hefyd 325 o offerynnau a ffigyrau clai cyn-Golumbaidd yn dangos cerddorion o orllewin Mecsico.
Caiff y casgliad ei gadw yn yr Adran Gerddoriaeth ac fel arfer ni cheir mynediad ato i aelodau'r cyhoedd, er y cynhelir dyddiau agored yn achlysurol.
Mae'r Casgliad Sŵoleg yn cynnwys tua 40,000 o sbesimenau ac mae tua 500 sbesimen yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol, yn Adeilad Brambell. Cychwynnodd y Casgliad Sŵoleg fel adnodd dysgu ac fe'i defnyddir hyd heddiw. Mae'r casgliad cyfareddol hwn yn ysbrydoliaeth i'r Brifysgol a'r gymuned ehangach.
Mae'r casgliad yn cynnwys ysgerbydau, penglogau, tacsidermi, cyrn carw, wyau a sbesimenau wedi'u cadw mewn hylifau. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys cyrn yr elc Gwyddelig sydd oddeutu 7500 oed, ysgerbwd cythraul Tasmania, oen gyda dau ben, cacapo a chrwban Galapago. Mae rhai o'r sbesimenau a gaiff eu harddangos bellach dan fygythiad neu'n ddiflanedig.
Nid yw'r Amgueddfa Hanes Naturiol ar agor i aelodau'r cyhoedd fel rheol ond caiff diwrnodau agored eu trefnu'n achlysurol er mwyn darparu mynediad.
Gall grwpiau neu ysgolion drefnu ymweliadau drwy wneud cais, ac mae ar agor ar Ddiwrnodau Agored y Brifysgol.
Mae'r Casgliad Daeareg yn cynnwys tua 8000 o greigiau a mwynau a 6000 o ffosilau o bedwar ban byd.
Mae'n cynnwys samplau nodedig o ogledd Cymru, er enghraifft darganfyddiadau cyfeiriol unigryw gan Dr Edward Greenly sef y daearegwr cyntaf i ddisgrifio a mapio daeareg Ynys Môn ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Defnyddiwyd enwau i ddisgrifio'r amserlen ddaearegol ryngwladol (er enghraifft Cambriaidd, Silwraidd ac Ordofigaidd) gyntaf gan ddaearegwyr oedd yn gweithio yng ngogledd Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif ac mae'r Casgliad Daeareg yn cynnwys sawl sampl a echdynnwyd yn ystod y cyfnod hwn.
Caiff detholiad o'r casgliad ei arddangos yng nghoridor yr Amgueddfa Hanes Naturiol, yn Adeilad Brambell. Yma mae'r casgliad o ffosilau'n cael eu cadw hefyd. Caiff gweddill y casgliad ei gadw yn adeilad Thoday ar hyn o bryd.
Nid yw'r Amgueddfa Hanes Naturiol ar agor i aelodau'r cyhoedd fel rheol ond caiff diwrnodau agored eu trefnu'n achlysurol er mwyn darparu mynediad.
Mae'r llysieufa yn cynnwys tua 30,000 o sbesimenau planhigion, gyda'r mwyafrif yn wasgedig. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys casgliad llai o sleidiau microsgop o ddeunydd planhigion, ambell ddeunydd planhigion wedi'i gadw mewn jariau gwydr a ffosilau. Mae'r casgliad o blanhigion gwasgedig yn cynnwys sbesimenau o bob cwr o'r byd, ac fe'i hystyrir yn un o'r 15 gorau yn y DU ac mae'n arbennig o bwysig yng Nghymru.
Mae'r llysieufa wedi'i lleoli mewn ystafell fechan drws nesaf i'r Amgueddfa Hanes Naturiol, yn Adeilad Brambell. Cychwynnwyd y casgliad ar ddiwedd y 19eg ganrif ac mae'r sbesimenau cynharaf yn dyddio nôl i'r 1830au. Darparwyd sbesimenau gan fotanegwyr Cymreig enwog megis Evan Roberts a Lloyd Williams, a chan ddarlithwyr hefyd megis yr Athro Thoday. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys casgliad Ynys Enlli, planhigion prin lleol megis lili'r Wyddfa a chasgliad mawr o sbesimenau brodorol. Caiff sbesimenau o bob cwr o'r byd eu cynnwys hefyd, megis planhigion fforestydd glaw o'r Dwyrain Pell.
Nid yw'r Amgueddfa Hanes Naturiol fel arfer ar agor i aelodau'r cyhoedd ond caiff diwrnodau agored eu trefnu'n achlysurol er mwyn darparu mynediad.
Mae'r casgliad coed yn cynnwys tua 5400 sampl o goed ac mae'r casgliad o bren drylliedig yn cynnwys oddeutu 2000 o samplau. Cychwynnwyd y casgliad fel cymorth dysgu ac mae'n un o'r casgliadau gorau yn y DU.
Ceir 2250 sbesimen o 864 o wahanol fathau yn y casgliad coed ac mae'n cynnwys coed o Affrica drofannol, ambell ran o Dde America a rhanbarthau o dde Asia. Mae'r casgliad o bren drylliedig yn ymwneud â niwed pryfed a llwydni sydd yn digwydd yn naturiol gyda sbesimenau o bren.
Cedwir y casgliad coed mewn cypyrddau gwydr ar ben grisiau 2il lawr Adeilad Thoday ac mae'r casgliad o bren drylliedig yn cael ei arddangos yn un o'r darlithfeydd yn Adeilad Thoday.
Storiel yw'r enw newydd ar gyfer is the new name given to the Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â
Helen Gwerfyl
Swyddog Casgliadau Bangor
Storiel
01248 353368