Yn 2023 gafodd Gronfa Gymunedol Prifysgol Bangor ei sefydlu fel rhan o’r Strategaeth Cenhadaeth Ddinesig a gefnogir gan MEDR drwy Gronfa Ymchwil ac Arloesi Cymru. Nôd y gronfa yw ysgogi gweithgareddau ymgysylltu dinesig rhwng staff y Brifysgol a phartneriaid allanol.
Gall pob aelod o staff wneud cais am grantiau <£1000 i wneud gweithgareddau ymgysylltu dinesig a fydd yn sbarduno cydweithrediadau newydd neu’n adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli gyda phartneriaid allanol. Rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o'r Brifysgol gan gynnwys Colegau, Ysgolion a Gwasanaethau Proffesiynol.
Dylai prosiectau gyd-fynd â'r Strategaeth Cenhadaeth Ddinesig a rhaid i'r ymgeisydd allu dangos sut mae’r cais yn mynd i'r afael ag un neu fwy o'r tair prif thema.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ - Iechyd, Hinsawdd, y Gymraeg, Tai, Tlodi, Poblogaeth sy'n Heneiddio;
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i alluogi arloesi a chyfleoedd economaidd;
- Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth trwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus.
Ariannwyd cyfanswm o 11 o brojectau yn y flwyddyn gyntaf! Darllenwch fwy amdanynt isod
Prosiectau
Hanes a Diwylliant
Yr Athro Nathan Abrams Dathlu Hanes Iddewig Gogledd Cymru a Theulu Pollecoff
Mewn partneriaeth â Varcity (datblygwyr Tŷ Pollecoff), Menter Fachwen a’r Project Darganfod, cynhaliwyd dadansoddiad manwl o’r teulu Pollecoff er mwyn codi ymwybyddiaeth o hanes Iddewig yng Nghymru ac i hybu a phwysleisio cyfraniad Iddewon i hanes y gymuned ehangach. Cafwyd arddangosfa yn Niwrnod Cymunedol y Brifysgol ym mis Hydref.
“Rydym wedi dechrau codi ymwybyddiaeth o effaith y teulu Pollecoff ar Fangor a thu hwnt gan arwain at lawer o adborth cadarnhaol” (Yr Athro Nathan Abrams, Athro mewn Ffilm).
Yr Athro Zoe Skoulding Dosbarthiadau Meistr Creadigol i Blant Ysgolion Lleol
Cefnogodd y Gronfa Gymunedol bedwar digwyddiad ar wahân i gyflwyno sut y gall ysgrifennu creadigol gefnogi lles personol ac amgylcheddol. Bu arbenigwyr ym maes ecoleg, argyfwng hinsawdd, sŵoleg a llenyddiaeth Gymraeg yn hwyluso cyfres o ddosbarthiadau meistr a helpodd i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys plant ysgolion lleol drwy’r celfyddydau a’r gwyddorau.
“Roedd yn hyfryd cael y cyfle i ymateb i frwdfrydedd myfyrwyr lleol a chreu digwyddiad pwrpasol yn arbennig ar eu cyfer a oedd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng barddoniaeth a gwleidyddiaeth gyfoes mewn digwyddiad gyda’r nos yn Pontio”.
(Yr Athro Zoe Skoulding)
Hinsawdd
Dr Marcel Ferrand Project GwaithGwyrdd Myfyrwyr Rhyngwladol
Trefnwyd y project gan y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol a daeth â thros 50 o fyfyrwyr, aelodau o’r gymuned leol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynghyd trwy weithgareddau amgylcheddol yn cynnwys Glanhau Traeth ym Mhen Llŷn a Diwrnod Bywyd Gwyllt Morol ar Ynys Môn.
“Roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr newid eu hamserlen ddyddiol a chychwyn ar anturiaethau cyffrous ym myd natur. Roedd yr un mor gyffrous i staff ac i wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth, a dreuliodd y diwrnod gyda phobl o bob rhan o’r byd yn dysgu am eu diwylliannau, eu ffyrdd o fyw mewn modd cynaliadwy ac yn adeiladu pontydd cymunedol i ofalu’n am ein planed” (Dr Marcel Clusa Ferrand, Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr).
Natalie Chivers Ymarferydd Garddwriaethol Therapiwtig
Galluogodd y Gronfa Gymunedol staff i gomisiynu Ymarferydd Garddwriaethol Therapiwtig a oedd, mewn partneriaeth â Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, yn gallu cefnogi’r grŵp cymunedol rheolaidd a chroesawu gwirfoddolwyr newydd o gefndiroedd amrywiol. Mae'r cyllid wedi cynyddu capasiti yn aruthrol ac wedi galluogi staff i ymgysylltu â mwy o aelodau o'r gymuned.
“Trwy’r project hwn rydym hefyd wedi gallu croesawu rhai gwirfoddolwyr yn ôl a gafodd drafferthion trwy’r pandemig gyda heriau personol amrywiol. Yn ogystal, mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i ddefnyddio’r project i wneud cais am gefnogaeth bellach, a dyfarnwyd £2200 i ni gan HEFCW i barhau â’n sesiynau dydd Gwener hyd y gellir rhagweld” (Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth).
Yr Athro John Parkinson Uwchgynhadledd Cynaliadwyedd ar Yr Wyddfa
Cefnogwyd uwchgynhadledd gyntaf COPA1 Eryri ar Yr Wyddfa gan y Gronfa Gymunedol, a daeth timau o blant o ysgolion uwchradd lleol i ddatblygu projectau i fynd i’r afael â phlastigau a gwastraff plastig. Cafodd y digwyddiad gefnogaeth gan randdeiliaid o broffil uchel a ffigurau cymunedol, gan gynnwys y gantores a bardd y plant, Casi Wyn, Owen Derbyshire, sef Pennaeth Cadw Cymru’n Daclus, Liz Saville Roberts, sef AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, a Pryderi Ap Rhisiart o M-SParc.
“Rydym yn gweld momentwm gwirioneddol yn ymdrechion y gymuned i leihau gwastraff plastig, ond dim ond megis dechrau y mae. Trwy addysg, ymchwil a chydweithio, rydym yn gosod llwyfan i newid parhaol."
(Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa)
Iechyd
Dr Louise Prendergast Cynhadledd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes
Mewn cydweithrediad â Compassionate Cymru Garedig, Mantell Gwynedd a’r Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, cynhaliwyd cynhadledd yn Neuadd Reichel i archwilio syniadau a safbwyntiau unigolion sydd â diddordeb mewn materion gofal lliniarol a diwedd oes, ac y mae hynny’n effeithio arnynt.
“Rwy’n gwneud cais am gyllid ar gyfer cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dilyn y gweithdy hwn, ac rwy’n gobeithio cynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol arall yn fuan, gan fy mod wedi fy mhlesio’n fawr gan faint o ddiddordeb oedd yn y maes hwn” (Dr Louise Prendergast, Swyddog Ymchwil).
Wendy Roberts Podlediad Gofal Cymdeithasol a Lles
Dan arweiniad Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, ariannodd y Gronfa Gymunedol y gwaith o gynhyrchu pedwar podlediad Cymraeg yn rhoi sylw i ofal cymdeithasol a lles yng Nghymru, pwysigrwydd gofal dwyieithog, a sut mae cwrs MA Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol o fudd ac yn cefnogi elusennau lleol, cynghorau ac asiantaethau trydydd sector.
“Mae’r podlediad wedi cynnig cyfle i ni greu a chryfhau cysylltiadau gydag asiantaethau partner, ac mae wedi cynnig cyfle nid yn unig i ni godi proffil y gwahanol asiantaethau, ond hefyd amlygu a thrafod rhai o’r heriau cymdeithasol yr ydym yn eu hwynebu mewn cymdeithas heddiw” (Wendy Roberts, Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol)
Morwenna Spear Cyfleoedd ar Fwrdd Cwch Hwylio Menai One Design
Mewn cydweithrediad â sefydliad Hwylio Treftadaeth y Fenai, a thrwy ddatblygu fideo hyrwyddo byr, bu tîm o’r Ganolfan Biogyfansoddion yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hwylio sydd ar gael i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol a difreintiedig ar draws gogledd Cymru, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i grwydro'r Fenai ar eu fflyd o gychod arbenigol.
“Mae’r project wedi helpu i wella ansawdd bywyd rhai o’r grwpiau mwyaf ymylol ar draws gogledd Cymru, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o hwylio a’r dreftadaeth leol sy’n gysylltiedig ag ef”.
(Morewenna Spear)
Yr Athro Raluca Radulescu Perthyn: Cymru, Cartref Y Chwedlau
Trwy bartneriaeth waith gyda Gwynedd Greadigol, storïwr lleol ac artist cain, trefnodd cydweithwyr o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau weithdy ar y cyd â grŵp Dementia lleol, Dementia Actif, a oedd yn canolbwyntio ar chwedl dwy ddraig yn Ninas Emrys. Defnyddiwyd delweddau a llyfrau prin o Gasgliad Arthuraidd y Brifysgol i ddangos sut mae chwedlau’n teithio, a sut mae llyfrau’n cael eu cadw a’u rhoi i’w defnyddio yn yr ardal leol.
“Cawsom adborth llafar hynod gadarnhaol gan y cyfranogwyr, a gafodd fwynhau awr a hanner yn llawn rhyfeddod wrth ymgysylltu â’r straeon a oedd yn gwneud iddynt deimlo’n fwy cartrefol. Dywedodd llawer y byddent wrth eu bodd pe byddent yn ymweld â chartrefi ymddeol lleol oherwydd eu bod yn cael trafferth cymryd rhan mewn digwyddiadau”.
(Yr Athro Raluca Radulescu)
Yr Athro Stephen Doughty Cyfres o Ddigwyddiadau Rhanddeiliaid Cymunedol i Gwmpasu Darpariaeth Fferylliaeth Newydd Ym Mhrifysgol Bangor
Defnyddiodd cydweithwyr o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru y Gronfa Gymunedol i gynnal cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael mewnwelediad gan gleifion, cymunedau, fferyllwyr a darparwyr gofal iechyd eraill ar ofynion ac anghenion gradd Fferylliaeth newydd yn y Brifysgol. Ymgysylltodd y project â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Llais, sef grŵp sy’n eirioli dros lais cleifion, er mwyn ceisio barn cleifion.
“Ar y cyfan, roedd y digwyddiadau’n hynod lwyddiannus. Cawsom gyfoeth o safbwyntiau sydd wedi helpu i lunio strwythur a chynnwys ein rhaglen MPharm newydd i ddiwallu anghenion gweithlu’r dyfodol sy’n benodol i gyd-destun gofal fferylliaeth gogledd Cymru. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymgysylltiad â chleifion a grwpiau cymunedol, ac yn parhau i weithio gyda Llais er mwyn datblygu grŵp cleifion arbenigol y gallwn alw arno i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu, asesiadau a sesiynau Addysg Ryngbroffesiynol, yn ogystal â mewnbwn parhaus gan randdeiliaid wrth i ni ddatblygu'r rhaglen”.
(Yr Athro Stephen Doughty)
Dr Emily Holmes Cynhadledd un dydd i dynnu sylw at y rhwystrau i deithio lleol ac i fynd i'r afael a’r rhwystrau hynny
Cynhaliwyd digwyddiad un dydd i randdeiliaid yn y Brifysgol er mwyn nodi’r heriau o ran gwireddu’r manteision iechyd sy’n gysylltiedig â chynyddu Teithio Llesol yng Nghymru, ac i fynd i’r afael â’r heriau hynny. Gwahoddwyd partneriaid a chynrychiolwyr o Cycling UK, Living Streets, Sustrans ac eraill i gymryd rhan yn nigwyddiadau'r a thrafodaethau’r diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar ddull gweithredu Cymru gyfan gyda ffocws ar yr ardal leol.
“Roedd y gweithdy teithio llesol yn gyfle gwych i glywed gan sefydliadau sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn yr ardal hon. Mae mewnwelediadau o’r fath yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i ogledd Cymru ac yn ein helpu i ddylunio ymchwil mwy arloesol. Diolch i bawb a fynychodd ac a rannodd eu profiadau”.
(Dr Emily Holmes)
Sgiliau
Ben Roberts Gweithdy adeiladu cyfrifiadur
Trefnodd a chynhaliodd tîm M-SParc #ArYLon Pwllheli weithdy diwrnod llawn ar gyfer 10 o fyfyrwyr TGAU lleol mewn cydweithrediad â North Wales Recycle I.T. ym mis Medi. Rhoddwyd cyfle i'r myfyrwyr ddatgymalu ac ailadeiladu cyfrifiadur personol a'u gwobrwyo drwy adael iddynt fynd â'r cyfrifiadur adref ar ddiwedd y dydd.
“Does gen i ddim cyfrifiadur gartref, mae hyn wir yn mynd i fy helpu gyda fy ngwaith ysgol” (myfyriwr lleol)
“Yr hyn a’m trawodd fwyaf oedd pa mor ddiwyd yr oedd y bobl ifanc yn gweithio drwy’r dydd, yn gwrando ac yn dysgu, ac yn cymryd y cyfle o ddifrif” (Ben Roberts, Swyddog Project Digidol a Rheolwr Ar y Lôn)
Chwaraeon
Dr Julian Owen Risg Anafiadau mewn Rygbi Merched Ieuenctid ar Lawr Gwlad
Fel rhan o’r project ymchwil a ariannwyd gan Rygbi’r Byd i archwilio risg anafiadau, ymgysylltodd staff yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon â thua 300 o chwaraewyr rygbi benywaidd ar draws naw canolfan merched Undeb Rygbi Cymru yng ngogledd Cymru a chomisiynu ffilm ddwyieithog i ddal ysbryd rygbi ieuenctid merched yn y rhanbarth. Y project dilynol sy’n deillio o’r cydweithio hwn fydd project Monitro Anafiadau mewn Rygbi Ieuenctid Merched Cymru (WISGYR) a ariennir gan Rygbi’r Byd. =
“Mae’r mewnwelediadau a gafwyd o’r ymgysylltu hwn yn cynnwys pwysigrwydd dulliau unigol o ddatblygu cysylltiadau â chanolfannau a phwysigrwydd ymgysylltu parhaus trwy ein project ymchwil” (Dr Julian Owen, Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer).
Chris Roberts Project Rhyddid Pêl-droed 2023
Gan adeiladu ar y bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Dreigiau gogledd Cymru, ac fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid 2023, croesawodd y tîm 35 o ddinasyddion wedi’u dadleoli o ardal Manceinion ym mis Mehefin, a hwyluso diwrnod o bêl-droed ar Faes Pêl-droed 4G y Brifysgol. Cyfle i rannu profiadau diwylliannol, hyfrydwch Gogledd Cymru i gyd trwy gyfrwng y pêl-droed; cafodd pawb ddiwrnod gwych!
“Roedd y natur yn anhygoel, môr un ochr, caeau gwyrdd yr ochr arall gyda defaid a gwartheg. Roedd y brifysgol, y lletygarwch a’r meysydd pêl-droed yn gofiadwy a dysgais lawer am Brifysgol Bangor, ei diwylliant, ei hiaith a’i hanes. Mi wnes i ei fwynhau, a newidiodd fy hwyliau. Roeddwn i angen mynd ar daith fer” (Mahin - ymwelydd)
“Roedd digwyddiad dydd Gwener yn gyfle gwych i rannu addysg ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chreu gofod ar gyfer trafod cyfleoedd addysgiadol a chyflogaeth. Roedd yn brofiad iachusol i lawer a ddaeth o hyd i gyfeillgarwch a phartneriaethau newydd” (Chris Roberts, Peiriannydd, Gwasanaethau Campws)
Sar Furlong & Cerys Gadd Gemau'r Ynysoedd 2023
Cefnogodd y Gronfa Gymunedol ddau aelod o staff y Gwasanaethau Proffesiynol pan aethant i Guernsey ym mis Gorffennaf a chynrychioli Ynys Môn yng Ngemau Rhyngwladol Pêl-droed Merched 2023 NatWest. Rhoddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru glod i’r tîm am chwarae yng nghit swyddogol Cymru a denodd y digwyddiad lawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Diolch am helpu i wneud hyn yn bosibl” (Cerys Gadd, Gweinyddu Myfyrwyr).
Plant a Phobl Ifanc
Nia Young & Dr Beth Edwards Presenoldeb ar y Stryd Fawr i Blant a Phobl Ifanc yng Nghanol Dinas Bangor
Nod ymarfer cwmpasu a oedd yn cynnwys ymgynghoriadau cymunedol, holiaduron ac Uwchgynhadledd Ieuenctid ar Iechyd Meddwl a Lles a gynhaliwyd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd, oedd archwilio anghenion Plant a Phobl Ifanc yn yr ardal leol. Arweiniwyd y project gan gydweithwyr yn yr Ysgol Addysg a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a chyfrannodd dros 100 o bobl ifanc at wahanol ddigwyddiadau ymgysylltu yn ystod y project.
“Mae’r gwaith o gysylltu â Phrifysgol y Plant eisoes ar y gweill a gobeithiwn barhau â’r gweithgareddau hyn er mwyn cael tystiolaeth bellach i gefnogi cyllid ychwanegol i’r project." (Dr Beth Edwards, Cydlynydd Datblygu Addysg Fenter)
Dr Ruth Elliott Adeiladu ar y cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Llais Dyslecsia
Dan arweiniad yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, helpodd y Gronfa Gymunedol i ariannu project a oedd yn adeiladu ar y cydweithio presennol gyda Llenyddiaeth Cymru a Llais Dyslecsia, a chasglu profiadau plant ac oedolion sy’n byw gyda dyslecsia yn y gymuned ehangach, yn enwedig yn y Gymraeg.
“Rydym yn aros am gadarnhad o gyllid pellach a fydd yn ein galluogi i weithio gyda disgyblion ysgol ag anawsterau niwroamrywiol a llythrennedd trwy gyfrwng y celfyddydau (Dr Ruth Elliott, Tiwtor Sgiliau Astudio Arbenigol)”.
Donna Dixon Uwchgynhadledd Ieuenctid i drafod Effaith Technoleg
Trefnodd aelodau staff o’r Ysgol Addysg uwchgynhadledd ieuenctid yn cynnwys disgyblion o ysgolion uwchradd lleol gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am y defnydd o dechnoleg a’i heffaith ar iechyd meddwl, llythrennedd digidol ac arloesi cynaliadwy. Tynnodd yr uwchgynhadledd sylw at bwysigrwydd safbwyntiau pobl ifanc tra'n deall bod rhaid gwneud y pynciau hyn yn hygyrch i gynulleidfaoedd amrywiol mewn digwyddiadau yn y dyfodol.
“Nododd athrawon fod y digwyddiad yn cyd-fynd â nodau dosbarth ac yn annog meddwl beirniadol ymhlith y disgyblion, mae’r ymwneud cadarnhaol yn dangos llwyddiant y digwyddiad o ran ysbrydoli pobl ifanc a hyrwyddo cydweithredu cymunedol”.
Donna Dixon