Mae gan Undeb y Myfyrwyr Bangor adain weithgar ym maes gwirfoddoli sy’n neilltuo cyfanswm o 600 awr yr wythnos ar gyfer projectau cymunedol.
Ar gyfartaledd, mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) yn darparu 35 project fesul blwyddyn academaidd ac yn llwyddo i ffurfio perthynas agos â’r gymuned.
Am fwy o wybodaeth ar brojectau cyfredol, ewch i dudalen gwe Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i hyrwyddo cynaliadwyedd ac i ddangos fod ein gweithgareddau yn cyfrannu at nodau llesiant Cymru nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’n myfyrwyr, drwy eu gweithgareddau gwirfoddoli yn cyfrannu’n uniongyrchol at y nodau Cymreig canlynol:
- Cymru iachach
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang
A rhai o nodau’r Cenhedloedd Unedig
- 3. Iechyd a llesiant da
- 4. Addysg o safon
- 5. Cyfartaledd gender
- 10. Llai o anghyfartaledd
- 15. Bywyd ar y ddaear
- 16. Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau cryf
- 17. Partneriaeth ar gyfer y nodau