Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau ar gael lle i astudio gyda ni ym Mhrifysgol Bangor. Fy enw i ydi Peredur Webb-Davies a dwi'n Darlithio mewn Ieithyddiaeth.

Dwi'n rhan o adran lle mae pawb yn astudio Ieithyddiaeth - Linguistics, neu Iaith Saesneg neu Ddwyieithrwydd. Da ni o dan ysgol fwy lle mae pawb yn yr ysgol yn astudio Iaith, Diwylliant a helfyddydau.

Fel myfyriwr efo ni yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf mi fyddi di yn dysgu am beth ydi iaith a sut mae iaith yn cael ei ddefnyddio. Fyddi di yn edrych ar amrywiaeth iaith, hanes iaith a manylion gramadeg iaith, sut i ddisgrifio strwythur geiriau a sain iaith.

Mae Bangor yn le gwych i astudio mai'n ddinas fach a chyfeillgar ac mae wrth gwrs yn ddwyieithog a Chymreig iawn. Felly da ni'n edrych ymlaen iawn i dy weld di yma yn fuan. Llongyfarchiadau eto a hwyl fawr.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

 

 

 

 

Dewis Bangor fel eich dewis Clirio

  • I dderbyn eich cynnig Clirio, ewch i'r adran 'Eich dewisiadau' yn eich cais UCAS a chlicio 'Ychwanegu dewis Clirio'. 
  • Yna bydd angen ichi ychwanegu manylion y cwrs yn cynnwys y teitl a’r cod cwrs.
  • Mae ychwanegu cwrs a phrifysgol benodol yn golygu eich bod yn bendant yn derbyn y cynnig Clirio hwnnw. Felly, os bydd y brifysgol wedi hynny yn cadarnhau'r lle, bydd yn ymddangos wedyn fel derbyniad ar eich tudalen 'dewisiadau' yn eich cais UCAS.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Ar ôl ichi ychwanegu Bangor fel eich dewis Clirio, bydd ein tîm derbyniadau yn cynnal gwiriadau. Felly peidiwch â phoeni os na fydd diweddariad yn ymddangos ar system UCAS ar unwaith - mae'n adeg brysur o'r flwyddyn felly mae'r broses yn cymryd ychydig o amser. Bydd eich lle Clirio gyda ni wedi ei neilltuo ar eich cyfer, a bydd ein tîm Derbyniadau yn cadarnhau eich dewis Clirio cyn gynted ag y bo modd.  
  • Unwaith y bydd eich lle ym Mangor wedi'i gadarnhau, bydd yn ymddangos fel derbyniad ar dudalen 'Eich dewisiadau' yn eich cais UCAS, a byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi.
  • Tua 24-48 awr yn dilyn hynny, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyswllt i'n system archebu llety er mwyn ichi allu dewis ystafell mewn neuadd breswyl. Rydym yn gwarantu ystafell yn un o’r neuaddau preswyl i bawb sy'n derbyn lle drwy'r system Glirio ac sy'n gwneud cais am lety cyn y dyddiad cau.

 

 

Eich camau nesaf

 

 

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Ymweld â ni a phrofi Bangor

Byddem wrth ein bodd eich croesawu yma i weld y profiad prifysgol arbennig sydd ar gael yma. Dewch i'r Diwrnod Agored ym mis Awst, y Diwrnod Ymweld Clirio neu drefnu i ddod yma ar ddyddiad arall. 

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi 2024.

 

 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

 

 

 

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?