Digwyddiadau i Ddeiliaiad Cynnig Clirio

Rydym yn falch eich bod yn ystyried Bangor fel eich dewis Clirio ac yn edrych ymlaen at eich croesawu i un o'n digwyddiadau fel eich bod yn cael blas o'r profiad prifysgol unigryw sydd i'w gynnig yma.

Myfyrwyr Bangor yn eistedd ar risiau tu allan i Pontio

Diwrnod Agored i ymgeiswyr Clirio

Rydym yn eich hannog i fynychu'r Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn, 17 Awst. Fel y byddwch yn ei ddisgwyl mewn Prif Ddiwrnod Agored, byddwch yn: 

  • cael mwy o fanylion am eich pwnc
  • gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
  • cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
  • gweld y llety i fyfyrwyr
  • cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
  • mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
  • ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Main Arts inner quad with people walking across

Diwrnod Ymweld Clirio

Fel rhywyn sydd wedi cael cynnig lle drwy Clirio, rydym yn eich gwahodd i Ddiwrnod Ymweld Clirio sy'n digwydd ar ddydd Mercher, 21 Awst. Mae hwn yn ddigwyddiad byrrach sydd wedi ei deilwro. Bydd y Diwrnod Ymweld Clirio yn cynnwys cyflwyniad i Fangor a thaith o'r campws fel rhan o'r rhaglen

Trefnu ymweliad ar ddyddiad arall

Os nad ydych yn gallu dod i'r Diwrnod Agored na'r Diwrnod Ymweld Clirio, yna byddem yn falch o drefnu ymweliad personol i'ch helpu i wneud penderfynaid am eich cynnig Clirio. E-bostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu eich ymweliad os gwelwch yn dda.  

Dwylo gydag ewinedd wedi eu paentio yn wyn yn gafael mewn ffôn symudol
Credit:Paul Hanaoka on Unsplash

Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Clirio

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?