Mae'r Ysgol Gwyddorau Addysgol yn cynnig cyfleoedd rhan-amser ac amser llawn i astudio ar gyfer y graddau PhD ac MPhil. Gall yr astudiaeth fod drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'r meysydd ymchwil arbennigol yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol yn cynnwys:
- Addysg gyfrwng Cymraeg
- Addysg ddwyieithog
- Iaith a llythrennedd
- Addysg gwyddoniaeth
- Addysg ôl-orfodol
- Mentora
- Effeithiolrwydd ysgol
- Anghenion dysgu ychwanegol / addysg anghenion arbennig
Mae'r Ysgol Gwyddorau Addysgol yn gallu cynnig tiwtora ymchwil arbenigol yn rheolaidd ar gyfer y meysydd ymchwil arbenigol a restrwyd uchod, ond mae'n bosibl bod meysydd cwricwlaidd eraill yn addas hefyd.
Fel rheol mae rhaglen PhD yn cymryd tair blynedd amser llawn a phump neu chwe mlynedd rhan-amser. Mae EdD hefyd fel arfer yn cymryd tair blynedd amser llawn a phump neu chwe mlynedd rhan-amser ac mae'n cynnwys chwech modiwl wedi eu ddysgu a thesis. Cwblheir gradd MPhil gan amlaf o fewn dwy flynedd amser llawn a thair neu bedair blynedd rhan-amser. Ni ddilynir unrhyw gyrsiau neu fodiwlau penodol yn yr Ysgol Addysg wrth gwblhau gradd ymchwil. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cynnig modiwlau mewn sgiliau (e.e., dadansoddi ystadegol neu ddefnyddio cyfrifiaduron) ar gyfer ei holl fyfyrwyr PhD ac MPhil.
Croesewir ceisiadau gan bawb sydd â gradd gyntaf dda mewn unrhyw faes. Fel arfer eithrir y rheini sydd â gradd Feistr rhag y flwyddyn gyntaf (y cyfnod prawf).
Ymholiadau am Geisiadau
Os oes gennych gwestiwn am gais newydd neu gais parhaus, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyniadau:
olradd@bangor.ac.uk
+44 (0) 1248 38 3717
Ymholiadau Rhyngwladol
I fyfyrwyr rhyngwladol:
rhyngwladol@bangor.ac.uk
+44 (0) 1248 38 2028