Fy ngwlad:

Ymchwil yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

A keyboard showing different languages

Ein Hymchwil Dwyieithwrydd

Mae Dwyieithrwydd yn astudio'r ffordd y mae siaradwyr dwy iaith (neu fwy) yn caffael ac yn defnyddio eu hieithoedd a sut mae'r ieithoedd hynny’n cael eu cynrychioli yn y meddwl. Saif Prifysgol Bangor yn yr unig ardal wirioneddol ddwyieithog yn y Deyrnas Unedig (Cymraeg-Saesneg). Mae'r staff yn gwneud ymchwil ar bob agwedd ar ddwyieithrwydd/amlieithrwydd, a hynny o safbwynt amlddisgyblaethol, empirig. Bu'r Ysgol hefyd yn arwain ar gais llwyddiannus am Ganolfan Ymchwil Dwyieithrwydd gwerth £5m (2007-12), a ariennir gan Gyngor Ymchwil Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig. Mae’r Ganolfan Ymchwil Dwyieithrwydd yn cynnwys cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf a labordy prosesu lleferydd (www.bangor.ac.uk/bilingualism/). Ar ben hynny, mae astudio Dwyieithrwydd yn ganolog i gwricwlwm israddedig y cwrs Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg. Rydym hefyd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy gydol ein rhaglenni israddedig ac MA.

Myfyriwr yn astudio yn y llyfrgell yn gwisgo clustffonau

Eim Hymchwil Ieithyddiaeth Wybyddol

Ieithyddiaeth Wybyddol yw'r astudiaeth o iaith a’r gwyddorau seicolegol yn gefn i hynny. Mae'n cynnig ymagwedd ryngddisgyblaethol sy'n gosod iaith o fewn astudiaeth o’r meddwl, diwylliant a chyfathrebu. Mae ieithyddion gwybyddol yn cymryd bod iaith yn adlewyrchu galluoedd gwybyddol cyffredinol, ac y gellir ei defnyddio i ymchwilio i rai agweddau ar drefn y meddwl. Mae’r staff yn cynnal ymchwil ar wahanol agweddau o iaith, meddwl, testun a diwylliant o safbwynt ieithyddiaeth wybyddol. Gall myfyrwyr hefyd arbenigo mewn ieithyddiaeth wybyddol ar lefel PhD. Mae ieithyddiaeth wybyddol yn ganolog i’n portffolio addysgu.

Partneriaethau Ymchwil

Mae staff Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn cydweithio ag ymchwilwyr ledled y byd o fewn eu meysydd arbenigedd. Dyma rai enghreifftiau:

Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru/ESRC

Partneriaeth strategol yw Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru rhwng pedair prifysgol ymchwil amlycaf Cymru. Mae'r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn rhan o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru ac mae’n cynnig hyfforddiant ymchwil trwy Lwybr Dwyieithrwydd achrededig ESRC.

Bilingualism Pathway

Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol ar Ieithoedd Dadleuol eu Statws

Mae Bangor yn cynnal y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol ar Ieithoedd Dadleuol eu Statws, rhwydwaith sy'n ceisio harneisio arbenigedd rhyngddisgyblaethol i ymchwilio, cynghori ac archwilio i'r materion sy'n ymwneud ag ieithoedd dadleuol eu statws, yn enwedig o ran eu cynnal, eu datblygu a'u cydnabod.

Ymchwil Rhyngwladol ar Ieithoedd Dadleuol eu Statws,

Rhwydwaith MPC dros Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol

Bangor yw cartref y rhwydwaith hwn a daw ag ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau ynghyd sydd â diddordeb mewn pynciau fel cyfathrebu ynghylch perygl llifogydd, perswadio, gwyliadwriaeth gorfforaethol a llywodraethol, y newid yn yr hinsawdd, ac adrodd am droseddau. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Astudiaeth MPC

Cymdeithas Ieithyddiaeth Wybyddol y Deyrnas Unedig

Amcanion canolog y UK-CLA yw datblygu a hyrwyddo maes amlddisgyblaethol Ieithyddiaeth Wybyddol yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chyfrannu at y synergedd sydd ar gynnydd ar hyn o bryd ledled Ewrop o ran ymchwil a digwyddiadau, a meithrin mentrau a chyfnewid ar lefel ryngwladol ehangach. I'r perwyl hwn, mae'r Gymdeithas yn trefnu cynhadledd bob dwy flynedd ar Ieithyddiaeth Wybyddol yn y Deyrnas Unedig, a a gynhaliwyd gan Fangor yn 2016..

Y digwyddiad yn ôl yn 2016

Myfyriwr yn astudio yn y llyfrgell yn gwisgo clustffonau

Labordy Dwyieithrwydd Plant

Mae’r Labordy Dwyieithrwydd Plant yn grwp labordy ymchwil yn yr adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Yn y labordy, mae ymchwilwyr ôl-raddedig, dan arweiniad  Dr Eirini Sanoudaki, yn ymchwilio i wahanol feysydd o ddwyieithrwydd plant.

Myfyrwraig yn astudio a darllen yn y llyfrgell

Cylch Ieithyddiaeth Bangor

Mae’r Cylch Ieithyddiaeth Bangor yn gyfres o seminarau Ieithyddiaeth wedi eu rheoli gan ymchwilwyr ôl-raddedig yn yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd gyda chefnogaeth ein staff. Mae’r Cylch Ieithyddiaeth yn gwahodd arbenigwyr o wahanol feysydd Ieithyddiaeth o bob rhan o’r DU a thramor i ddod a rhoi sgyrsiau i'n myfyrwyr am eu ymchwil. Yn y gorffennol, rydym wedi cael cyflwyniadau gan ymchwilwyr blaenllaw mewn meysydd yn cynnwys; Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol, Sosioieithyddiaeth, Dwyieithrwydd, Datblygu Llythrennedd, Caffael Iaith Annodweddiadol, Seicoieithyddiaeth, Dadansoddi Disgwrs Hunaniaeth Genedlaethol a Seineg.

Digwyddiad Cylch Ieithyddiaeth i ddod

Cyflwyniadau Cylch Ieithyddiaeth blaenorol