Myfyrwyr Bangor yn crwydro Parc Cenedlaethol Eryri

Iechyd Cyfunol

Mae Iechyd Cyfunol yn ffordd ryngddisgyblaethol o weithio sy'n cydnabod y cyswllt rhwng pa mor iach yw pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd.  

Arweinwyr y thema: Amy EllisonEllie Jameson

CYSYLLTU

Logo Iechyd Cyfunol

Thema Ymchwil BETH YDYM NI'N EI WNEUD?

Mae problemau iechyd y ddynoliaeth, yr argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn gydgysylltiedig. Mae arbenigedd Iechyd Cyfunol ym Mhrifysgol Bangor yn dod â gwaith rhyngddisgyblaethol ynghyd i ddeall a datrys y materion hollbwysig hyn.  

Mae’r Brifysgol yn helpu i ddatrys heriau cymdeithasol, iechyd, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y byd. Mae cynaliadwyedd yn sail i’n holl waith ymchwil. Yn wir, mae ansawdd ein heffaith ar Ddatblygu Cynaliadwy yn gyntaf yng Nghymru, yn yr unfed safle ar ddeg yn y Deyrnas Unedig ac yn safle 53 yn rhyngwladol allan o 1,500 o sefydliadau yng nghynghrair effaith prifysgolion 2022 Times Higher Education. 

 

Cydweithredu Byd-eang a Chyfleusterau o Fri

Mae cydweithio rhyngddisgyblaethol yn allweddol i fynd i’r afael â heriau Iechyd Cyfunol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae ein cyfleusterau ymchwil yn y maes hwn o safon fyd-eang ac yn cynnwys ein llong ymchwil ar y môr, y Prince Madog, Fferm ymchwil Henfaes, a Gerddi Botaneg Treborth. Cynhelir ymchwil hollbwysig i iechyd yr amgylchedd yng Ngholeg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg ac ym mhob rhan o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol. At hyn, mae Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn arwain y ffordd ym maes Iechyd Cyfunol, gyda’r Ganolfan Biogyfansoddion a Chanolfan Ymchwil Dŵr Gwastraff Cymru, sy’n enwog drwy’r byd. Rydym yn cyfuno’r arbenigedd craidd hwn ym maes iechyd yr amgylchedd gyda galluoedd allweddol mewn amaethyddiaeth, iechyd anifeiliaid a chydweithio â Choleg y Gwyddorau Dynol. Trwy gyfuno profiad meddygol a gwyddor iechyd, a dod â phartneriaid diwydiannol ac asiantaethau iechyd cyhoeddus ynghyd, mae Prifysgol Bangor mewn sefyllfa dda i astudio Iechyd Cyfunol. 

Ein Hymchwilwyr

Dr Amy Ellison

Dr Amy Ellison

Parasitolegydd moleciwlaidd yw Dr Amy Ellison sydd â diddordeb yng nghronobioleg yr ymwneud rhwng lletywyr-parasitau ac yn genomeg swyddogaethol yr ymwneud rhwng lletywyr, microbiomau a phathogenau.

 

Dr Ellie Jameson

Dr Ellie Jameson

Mae Dr Ellie Jameson yn Firolegydd Amgylcheddol, sy'n ymchwilio i swyddogaethau firysau yn yr amgylchedd, eu heffeithiau ar iechyd a'r microbiom.

Yr Athro Davey Jones

Yr Athro Davey Jones

Mae'r Athro Davey Jones yn Wyddonydd Amgylcheddol ac yn ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd.

Mae Dr Shelagh Malham yn sefyll o flaen cefndir llwyd

Yr Athro Shelagh Malham

Mae'r Athro Shelagh Malham yn Fiolegydd Morol sy'n canolbwyntio ar effeithiau amgylcheddol ar bysgod cregyn.

The image shows a person working in a laboratory setting. The individual is wearing protective gear, including a white lab coat, a face mask, gloves, and a face shield with a pink headband. They are handling laboratory equipment inside a fume hood or a biosafety cabinet, which is likely being used to ensure a sterile and safe environment for experiments. Various tubes, containers, and scientific instruments are visible, suggesting that the person is conducting a precise scientific procedure or experiment. T

Dr Kata Farkas

Mae Kata yn firolegydd amgylcheddol sy'n canolbwyntio ar glefydau dynol sy'n dod i'r amlwg oherwydd trefoli a newid yn yr hinsawdd.

image of Julia Jones in recording studio

Yr Athro Julia Jones

Mae’r Athro Julia Jones yn wyddonydd cadwraeth sydd ag arbenigedd penodol mewn gwerthuso effaith ymyriadau cadwraeth.

A small migratory bird, the reed warbler, about to be released after being tested for its ability to navigate across continents

Yr Athro Richard Holland

Mae Richard yn fiolegydd ymddygiadol sy'n ymchwilio i sut mae anifeiliaid yn gogwyddo, yn llywio ac yn cofio lleoliadau yn y gofod o symudiadau lleol ar raddfa fach i fudo cyfandirol.

Simon sampling water destined for a global assessment of lake biodiversity

Yr Athro Simon Creer

Mae Simon yn astudio bioamrywiaeth ar draws biomau amrywiol ac yn asesu cysylltiadau â swyddogaeth ecosystemau, iechyd yr amgylchedd a dynol.

Dr Svenja Tidau yn gwyro ger craig yn edrych ar aderyn

Dr Svenja Tidau

Mae Dr Svenja Tidau yn fiolegydd newid byd-eang sydd â diddordeb mewn sut mae newidiadau naturiol ac anthropogenig yn yr amgylchedd yn effeithio ar anifeiliaid (morol).

Researcher standing on hillside

Dr Perrine Florent

Mae Perrine yn ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn ecotocsicoleg, yn canolbwyntio ar ymddygiad, tynged a chludiant microblastigau o fewn a rhwng ecosystemau daearol ac atmosfferig.

Rhestr lawn o'n hymchwilwyr

I ddilyn

I ddilyn

I ddilyn

Projectau Allweddol

Mae’r rhai sy’n ymchwilio i’r thema hon yn gweithio ar amrywiaeth eang o brojectau cymhwysol. 

Bats exposed to electromagnetic noise at sunset to test how it disrupts their navigation sense

Synnwyr magnetig mewn ystlumod

Prosiect sy'n ymchwilio i sut mae sŵn electromagnetig artiffisial yn tarfu ar synnwyr magnetig ystlumod

A eutrophic estuary is in the foreground with trees along the shore

INVEST

Bydd INVEST yn ymchwilio i ddirywiad ansawdd dŵr aberol oherwydd newid hinsawdd ar draws holl aberoedd Lloegr

Comic Iechyd Cyfunol

Cymerwch olwg ar ein comic difyr a diddorol, a grëwyd i godi ymwybyddiaeth o'r project Iechyd Cyfunol a'i effaith pellgyrhaeddol.

“Y Ditectifs Dŵr Gwastraff” Stori Iechyd Cyfunol, Comic gan Rik Worth a Jordan Collver gyda lliwiau gan JP Jordan/ Mewn cydweithrediad ag Ellie Jameson ac Amy Ellison, Iechyd Cyfunol ym Mhrifysgol Bangor, wedi'i ariannu gan Rwydwaith Arloesedd Cymru

Tudalen 1 o 4

PANEL UN: Mae pibell garthffosiaeth sy'n gollwng yn diferu'n araf

PENNAWD: Doedd gwyliadwriaeth dŵr gwastraff ddim yn denu fawr mwy na diferyn o ddiddordeb academaidd.

PANEL DAU: Mae'r llif yn cyflymu. Rydyn ni'n panio allan ac yn gweld bod y bibell sy’n gollwng yn heintio dŵr glân.

PENNAWD:Yna digwyddodd COVID-19…

PANEL TRI:  Mae’r bibell yn byrstio, ond nid dŵr yn unig sy'n dod allan; mae gwyddonwyr yn llamu'n arwrol o'r dŵr hefyd. Byddai hwn yn lle da i ymchwilwyr wneud cameo.

PENNAWD: Yn sydyn, cafodd y maes ei orlifo!

PANEL PEDWAR: Mae'r gwyddonwyr yn sefyll at eu fferau mewn dŵr. Os oes ffordd i'w gwahaniaethu a'u hadnabod o ran eu meysydd, byddai hynny'n gweithio'n dda yma - e.e. pa fathau o offer y byddech chi'n eu defnyddio wrth wneud gwaith maes. Mae GWYDDONYDD UN yn sefyll yn feiddgar o flaen y panel. Mae GWYDDONYDD DAU yn sefyll yn y cefndir, wedi'i orchuddio â budreddi ac yn codi ei ysgwyddau.

PENNAWD: Fe wnaeth galw hanfodol am wybodaeth greu rhagor o gyfleoedd i wyddonwyr ac ymchwilwyr ar draws disgyblaethau i archwilio meysydd ymchwil newydd.

GWYDDONYDD UN: Mae'n waith budr! Ond mae'n rhaid i rywun ei wneud!

GWYDDONYDD DAU: Wel, dyna ni. Mae dal yn well nag ysgrifennu ceisiadau grant. 

PANEL PUMP: Llun gogoneddus o Brif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.

PENNAWD: Defnyddiwyd y broses o ganfod COVID-19 mewn dŵr gwastraff am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Bangor… yn y Sefydliad Iechyd Cyfunol!

PENNAWD: Gallwn ganfod amrywiadau sy'n dod i'r amlwg mewn amser real er mwyn deall mynychder clefydau yn y gymuned yn well na thrwy brofi yn unig. 

Tudalen 2 o 4

PANEL UN: Mae'r gwyddonwyr bellach mewn labordy’n dadansoddi. Mae dau ymchwilydd yn edrych ar gyfrifiadur gyda thafluniad o ffâg ar y wal y tu ôl iddynt, mae un arall yn edrych i mewn i ficrosgop, ac mae pedwerydd yn cario bocs o ffiolau gydag arwydd rhybudd arno. Mae GWYDDONYDD DAU yn edrych i fyny o'u gwaith ar y darllenydd.

PENNAWD: Cenhadaeth Iechyd Cyfunol Bangor yw defnyddio ymchwil rhyngddisgyblaethol i ddeall a datrys materion iechyd dynol, colled bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
        
GWYDDONYDD pedwar: O, dim pwysau felly?

PANEL DAU: Mae rhes o dri gwyddonydd Iechyd Cyfunol gyda'u cefnau at y darllenydd yn ysgwyd dwylo â thri arbenigwr arall ar yr un pryd: academydd, meddyg a ffermwr pysgod cregyn.

PENNAWD: A gweithio gyda chymunedau academaidd, asiantaethau iechyd cyhoeddus ac arbenigwyr yn y diwydiant i wneud newid effeithiol a chynaliadwy. 

PANEL TRI: Mae dwy gragen las yn sgwrsio ar wely'r môr. Gallwn weld budreddi a charthion yn llifo yn y dŵr o’u hamgylch. Mae CRAGEN LAS UN yn sugno’r dŵr sy’n mynd heibio gan ddefnyddio’r man lle byddai ei cheg.

PENNAWD: Ystyriwch bysgod cregyn, er enghraifft. Maen nhw'n hidl-ymborthwyr ac yn bwyta popeth, gan gynnwys firysau, mewn dosau bach iawn sy'n biogynyddu - unrhyw beth o hepatitis i norofeirws.

CRAGEN LAS UN: Beth wyt ti ffansi i ginio?

CRAGEN LAS DAU: Ti’n nabod fi. Dwi ddim yn ffyslyd *torri gwynt*.

PANEL PEDWAR: Darlun yn edrych i fyny o ddyn ar fin bwyta cregyn gleision hyfryd, wedi'u stemio mewn saws gwin gwyn a garlleg. 

PENNAWD: Yna maen nhw'n cael eu ffermio. Ac er bod y pysgod cregyn yn cael eu glanhau, gall y firysau dal gyrraedd bodau dynol...
...y mae’n well ganddynt fwyta eu pysgod cregyn yn nofio mewn saws gwin gwyn. Nid carthion.

PANEL PUMP: Yn y blaendir, mae'r dyn yn dod â'r gragen las i'w geg. Rhyngddynt, yn y cefndir, mae GWYDDONYDD DAU, yn cyrraedd mewn union bryd. Maen nhw'n estyn allan ac yn gweiddi!

GWYDDONYDD DAU: STOPIWCH Y PYSGODYN CRAGEN YNA!

PENNAWD: Trwy fonitro, gallwn ragweld achosion clefydau mewn cymunedau - gan weithio gyda diwydiant i sicrhau nad yw pysgod cregyn heintiedig yn cael eu gwerthu, a chydag iechyd y cyhoedd i ddatblygu polisïau.

Tudalen 3 o 4

PANEL UN: Traeth ar ddiwrnod poeth. Mae dau YMWELYDD Â’R TRAETH yn cyrraedd ac yn dod o hyd i firysau maint dynol gyda dau blentyn firws bach yn difetha'r traeth. Mae nifer o firysau a bacteria eraill ar y traeth yn y cefndir. Mae budreddi ym mhob man, mae'r dŵr sy'n eu cyffwrdd yn troi'n frown, mae un o’r plant firws yn bygwth cranc, ac mae sbwriel o'u cwmpas. 

PENNAWD: Ond nid yw'r heriau hyn yn lleol yn unig, maent yn rhai byd-eang. Wrth i'r hinsawdd gynhesu, efallai y bydd mwy o bobl eisiau treulio amser ar eu traeth lleol... Ond mae tymereddau cynhesach yn golygu bod ymwelwyr eraill o bellach i ffwrdd.

YMWELWYR Â’R TRAETH: O NA!

FIRWS UN: Dywedwch helo wrth eich cartref newydd blantos!

PLENTYN FEIRWS: MWA HA HA!

PANEL DAU: Mae tri gwyddonydd yn eistedd gyda bicer o ddŵr ar blât troi poeth o flaen pob un ohonynt. Yn y ddau ficer cyntaf mae dŵr glân, y dŵr yn y cyntaf yn llonydd a’r dŵr yn yr ail yn berwi. Ond yn y bicer olaf mae bacteria’n tyfu ac yn dianc allan ohono, gan synnu'r ymchwilydd. Mae gan y bacteria wyneb bach.

PENNAWD: Bydd firysau trofannol yn dod o hyd i gartrefi newydd yn ein dyfroedd. Ac fel y dangosodd COVID, mae'n hawdd i'n cymunedau gael eu dal allan gan afiechydon newydd. Mae ein hymchwil ni (ymhlith nifer o brojectau ymchwil eraill) yn edrych ar sut mae pathogenau’n ymateb i dymereddau gwahanol. 

YMCHWILYDD UN: Hmm, rhy oer.

YMCHWILYDD DAU: Rhy boeth!

YMCHWILYDD TRI: Argol!

BACTERIA: Perffaith!

PANEL TRI: Mae dau ymchwilydd yn darllen allddarlleniad print o uwch-gyfrifiadur - wrth gwrs, y peth i’w wneud mewn comig fyddai defnyddio anghenfil yn y dull rîl-i-rîl clasurol - ond eto, gallwn ei ddiweddaru i fod yn fwy modern ac yn llai comig.

PENNAWD: Mae'r data hwn yn cael ei fwydo i mewn i fodelau cyfrifiadurol sy'n gallu rhagweld risgiau posibl i iechyd dynol.

CYFRIFIADUR: BSST_CLIC_BSST Peidiwch â mynd i nofio. CLIC_ BSST BÎP Ac ewch ag eli haul!

PANEL PEDWAR: Awn yn ôl i'r labordy a welwyd ar DUDALEN 2, PANEL UN, lle mae ymchwilydd mewn gogls yn codi cynhwysydd allan o uned storio oer. Mae niwl yn chwyrlïo o amgylch y cynhwysydd wrth i'r ymchwilydd wneud ei gwaith yn nerfus. Mae llun o ffâg ar y cynhwysydd.

PENNAWD: Rydym hefyd yn defnyddio firysau er mantais i ni.

PANEL PUMP: Yn ôl ar y traeth. Mae'r FFÂG defnyddiol sy'n gweithredu fel bownsar yr un maint â pherson, ond yn fwy - yn gryfach ac yn fwy cyhyrog. Mae'n dyrnu ei ddwrn yn ei law, a bron yn rhwystro'r haul gyda’i gorff. Mae’n camu ar facteria sy’n yfed coctel gwrthfiotig ar dywel traeth budr. Mae un o'r YMWELWYR DYNOL Â’R TRAETH yn pwyso dros ysgwydd y FFÂG gan ysgwyd dwrn yn yr awyr, fel pe bai'n dweud, "Dwi am dy gael di!"

PENNAWD: Trwy ynysu bacterioffagau (firysau) defnyddiol mewn carthion, a dod o hyd i'r rhai sy'n ddiniwed i bobl ac anifeiliaid, gallwn ymosod ar facteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau…

FFÂG: Dydy’r lletywr hwn ddim yn ddigon mawr i’r ddau ohonom ni…

PENNAWD: …Sy'n golygu y gallwn atal a lleihau nifer y marwolaethau oherwydd ymwrthedd i wrthfiotigau.

Tudalen 4 o 4

PANEL UN: Mae’r pennawd cyntaf yn rhedeg yr holl ffordd uwchben PANELI UN, DAU a THRI. 

PENNAWD: Mae Bangor yn addas iawn ar gyfer y dull Iechyd Cyfunol diolch i'n ysgolion rhagorol...

PANEL UN: Mae'r panel hwn yn cynrychioli'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Mae'n dangos ymchwilydd â broga ar ei ysgwydd yn gwthio dail gwyrddion o'r neilltu i edrych ar froga arall.

PENNAWD: Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Cartref i swolegwyr, ecolegwyr a gwyddonwyr amgylcheddol (yn enwedig yn ymwneud â choedwigaeth a phriddoedd).

PANEL DAU: Yma gwelwn long ymchwil y Prince Madog yn dod dros donnau’r môr, a golau dydd yn torri drwy’r awyr lwyd.

PENNAWD: Ysgol Gwyddorau’r Eigion. Eigioneg, ymddygiad anifeiliaid, dyframaethu (cregyn gleision, wystrys, ac ati)

PANEL TRI: Yn olaf, gan symud o wyrdd i wyrddlas i las, gwelwn fyfyrwyr meddygaeth ac ymchwilwyr mewn sgrybs yn helpu claf. Mae'r llun yn fwy uniongyrchol a phersonol.

PENNAWD: a’r Ysgol Gwyddorau Iechyd. Gofal meddygol, gofal iechyd a gofal chymdeithasol, gwyddorau cymdeithas, economeg iechyd.

PENNAWD: Cefnogir pob un gan isadeiledd amgylcheddol, isadeiledd cynaliadwyedd ac isadeiledd iechyd mwyaf blaenllaw Cymru.

PANEL PEDWAR: Llun agos o diwb mewn diferyn IV, un sy'n rheoli cyfradd y llif. Mae ar fin diferu.

PENNAWD: Mae’n llawer mwy nag edrych ar iechyd dynol yn unig. 

PANEL PUMP: Llun agos o’r diferyn o ddŵr yn disgyn. Mae'r diferyn yn sffêr glas golau a gwyrdd sy'n edrych fel y Ddaear yn erbyn cefndir tywyll yn llawn sêr.

PENNAWD: Mae ymchwil Iechyd Cyfunol Prifysgol Bangor yn ymchwilio i iechyd bywyd gwyllt, bodau dynol ac ein hamgylchedd…
...i astudio sut mae'r tri pheth hyn wedi'u cydgysylltu'n annatod. 

PANEL CHWECH: Awn yn ôl i draeth gyda choed palmwydd a mynyddoedd yn y cefndir. Mae'r diferyn wedi disgyn i'r cefnfor gyda sblash. Mae'r traeth hwn yn edrych yn dawel, yn lân ac yn llonydd wrth i’r haul godi. Mae'r diferyn wedi achosi crychdonnau i ymledu ar draws y cefnfor at y lan.

PENNAWD: Trwy wneud newidiadau cadarnhaol mewn un maes yn unig...
..gallwn weld effaith crychdonni...
…ar draws ecosystemau cyfan.
Rydym i gyd yn rhannu un blaned.
Rydym i gyd yn rhannu… Iechyd Cyfunol.

Diwedd

Astudio ym Mangor

Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn. 

Astudio ym Mangor

Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.