Adneddau ar Ucheldiroedd Dwyrain y Carneddau

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'The Abandoned Upland Settlements of the Eastern Carneddau'

Ymchwilydd doethurol: Anna Reynolds

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Mari Wiliam 

Mae ucheldiroedd Dwyrain y Carneddau, o blwyf Gyffin yn y gogledd i blwyf Llanrhychwyn yn y de, wedi'u gwasgaru gan gartrefi a ffermydd a adawyd yn wag yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Bydd yr ymchwil hon yn ceisio dod â chymuned a bywydau'r aneddiadau hyn at ei gilydd rhwng c. 1700 a chanol yr 20fed ganrif, gan ddarganfod pam y daethant yn gartrefi parhaol a sut y defnyddiwyd y trigfannau hyn, gan ymchwilio i fywydau’r trigolion, a pham y bu iddynt fethu yn y diwedd fel lleoedd hyfyw i fyw ynddynt. Pa un a ddechreuodd yr aneddleoedd a'r ffermydd hyn fel hafodau i ffermydd yr iseldir yn yr oesoedd canol, neu fel tai sgwatwyr a godwyd i liniaru prinder tai a thir yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y thema gyffredin yw eu diflaniad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan ddiflannodd cymuned gyfan.

Adfail bwthyn ar ochr mynydd
Golygfa o Tyddyn Grasod ym Mhlwyf Gyffin o'r de.

Yn ystod eu bywydau, fodd bynnag, cartrefi i gymunedau yn hytrach nag unigolion oedd y lleoedd hyn. Trwy dystiolaeth cofnodion plwyf, papurau stad, papurau newydd cyfoes, a ffynonellau archifol eraill, bydd yr ymchwil yn ceisio darganfod mwy am sut roedd y cymunedau hyn yn bodoli a sut roedd unigolion yn rhyngweithio â'i gilydd. Pa mor gysylltiedig oedd y cymunedau hyn gyda chymunedau’r iseldir ac ardaloedd ymhellach i ffwrdd? Beth oedd effaith y mewnlifiad o fewnfudwyr, yn enwedig mewnfudwyr di-Gymraeg, wrth i chwareli llechi, newidiadau mewn rheolaeth ystadau, a thwf projectau trydan dŵr newid y ddemograffeg yn yr ardal? A oedd trigolion yr ucheldir yn byw mewn tlodi truenus neu gynhaliaeth gyfforddus? Beth oedd effeithiau twf addysg orfodol a’r cynnydd graddol mewn Saesneg fel iaith lafar mewn cymuned o siaradwyr Cymraeg uniaith gynt? A roddodd twf addoliad anghydffurfiol fwy o annibyniaeth ac ymreolaeth i ucheldirwyr cyn tranc terfynol y cymunedau hyn? Ar ddiwedd yr ymchwil, y gobaith yw y bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb, ac y ceir darlun llawnach o fywyd ucheldir y Carneddau.

Gweithgarwch diweddar: Cyflwyniad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ddinesig Dyffryn Conwy ym mis Gorffennaf 2024.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?