Anna Reynolds

Ymchwilydd Doethurol 

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Cefais fy magu ar ymyl gorllewinol Dyffryn Conwy ac rydw i’n dal i fyw yn y cartref y symudais iddo yn saith oed.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Aneddiadau ucheldir segur Dwyrain y Carneddau.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Byw yn yr ucheldir, cymunedau, sut mae cysylltiadau teuluol a chymunedol yn cael eu dangos trwy gofnodion plwyf, ewyllysiau a dogfennau profebion eraill. Bywydau rhannau tlotaf o gymdeithas y mae’r cofnodion amdanynt yn brin. Bywyd beunyddiol fel y dangosir mewn rhestrau profebion.

Ymchwilydd Doethurol Anna o flaen baner ISWE.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Roedd fy ngradd gyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg gyda Phrifysgol Bangor. O hynny, a diddordeb mawr mewn llenyddiaeth Hen Saesneg, symudais ymlaen i MA mewn Astudiaethau Canoloesol Cynnar gyda Phrifysgol Efrog, a oedd yn ymdrin â hanes, archaeoleg, a llenyddiaeth y canoloesoedd cynnar, gan ganolbwyntio'n bennaf ar yr Eingl Sacsoniaid, Hen Norseg, ac Iwerddon Gristnogol gynnar. Cymerais seibiant hir o’r byd academaidd wrth fagu plant ac ysgrifennu a chyhoeddi nofelau, ond fe wnaeth diddordeb cynyddol yn fy ardal leol, yn enwedig adfeilion bythynnod ucheldir y Carneddau, ddod â mi yn ôl i Fangor.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Cael y lle a’r amser i’w neilltuo i ymchwilio i rywbeth sy’n fy niddori, a bod yn rhan o gymuned academaidd.

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Aros ychydig yn gall trwy nifer o argyfyngau, a llwyddo i barhau â'm hymchwil.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Rydw i bob amser wedi fy swyno gan yr oesoedd canol ac oes Fictoria. I ddechrau, roedd y diddordeb hwn yn seiliedig ar lenyddiaeth Fictoraidd a llenyddiaeth ac iaith ganoloesol. Mae'r oesoedd canol yn lle diddorol sy'n ymddangos yn bell iawn, ond sy'n dod yn fyw trwy hanes. Mae oes Fictoria yn gyfuniad anhygoel o ddylanwadau’r byd, newidiadau mewn agweddau crefyddol, datblygiadau mewn gwyddoniaeth a diwydiant, a moesau cythryblus. O ddiddordeb arbennig i mi yw’r pryder fin de siecle wrth i’r cynnydd ym myd gwyddoniaeth barhau i erydu credoau hirsefydlog mewn Duw hollwybodol.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Mae'r Carneddau yn adfer fy mhwyll a'm henaid. Rydw i wrth fy modd â natur enfawr, wyllt, wag y tir, lle efallai na welwch neb ar daith gerdded 14 milltir. Yn hytrach, cewch eich gadael ar eich pen eich hun gydag ymddangosiad ysbeidiol merlod y Carneddau, cân yr ehedydd, crawc y gigfran yn hedfan uwchben, ac esgyrn tai a chwareli yn cael eu herydu gan dywydd ac amser.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Rydw i wedi bod yn ailddarllen Thomas Hardy yn ddiweddar, sy’n fendigedig am beintio portread o fywyd cefn gwlad Fictoraidd, er bod hynny yn ne orllewin Lloegr yn hytrach na Chymru. Mae Elizabeth Gaskell yn ffefryn arall rydw i wedi bod yn ei ail-ddarllen yn ddiweddar. Mae fy hoff bethau ar y teledu yn fwy oddi ar y pwnc braidd. The Man From U.N.C.L.E. a Star Trek yw’r hyn rydw i’n wastad yn mwynhau eu gwylio, ochr yn ochr â phethau fel Time Team, rhaglenni gwyddoniaeth, a rhaglenni sy'n cynnwys Ruth Goodman.

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Rydw i wrth fy modd yn mynd i gerdded yn y Carneddau, unrhyw le y gallaf ei gyrraedd ar droed o fy nrws. Rydw i'n ysgrifennu llawer, pan fyddaf yn cael y cyfle, ac yn hoffi archwilio fy ardal leol ac ymhellach i ffwrdd. Rydw i'n treulio llawer o amser yn gofalu am gasgliad o anifeiliaid gan gynnwys ieir, gwyddau, hwyaid, geifr, cathod, cŵn, gwylan wedi'i hanafu, a neidr.

Sut gall pobl gysylltu â chi neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich project ymchwil? Mae gen i flog sydd ddim yn cael ei ddiweddaru'n aml o'r enw The Places Where We Go

Cysylltwch â Anna: 

nnd23cbq@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?