Anheddiad sgwatwyr ar Fynydd y Drenewydd

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'The life of the squatter settlement on Newtown Mountain, 1845 - 1907'

Ymchwilydd Doethurol: Vic Tyler-Jones

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Mari Wiliam

Cododd aneddiadau sgwatwyr yng Nghymru ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid yw hanes yr unigolion a drigai yn y mannau hyn wedi ei hadrodd. Sefydlwyd un trefedigaeth o'r fath tua 1845 ar Fynydd Rhiwabon yn Sir Ddinbych ac fe gafodd yr enw 'Y Drenewydd' erbyn cyfrifiad 1861.

Map 1860 o Mynydd Newtown
Map o anheddiad sgwatwyr ar Fynydd y Drenewydd, dyddiedig 1860.

Ymwelodd George Borrow y drefedigaeth hon a nododd: -

‘small grimy looking huts’ 

‘grimy but chubby children’

a barefooted woman with ‘on her head an immense lump of coal’

[Borrow, Wild Wales, 1862 p. 313]

O ble daeth y bobl hyn a pham eu bod yn byw ar y mynydd? Sut le oedden nhw a beth allwn ni ei ddarganfod am eu hanheddau? Pa dystiolaeth sydd o ddatblygiad cymuned yn y lle hwn? Sut gwnaeth y bobl hyn wrthsefyll llymder bodolaeth yn y lle digroeso hwn a sut yr oedd yn berthnasol i economi ehangach yr ardal? Gobeithiaf roi atebion i’r cwestiynau hyn a chwestiynau eraill er mwyn disgrifio bywyd sgwatwyr Mynydd y Drenewydd. 

Gweithgarwch diweddar: Ar hyn o bryd yn canolbwyntio 100% ar ysgrifennu yr adolygiad llenyddiaeth.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?