O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? O Llai (Wrecsam). Dw i'n byw yng Nghaer.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Bywyd y drefedigaeth sgwatwyr ar Fynydd Rhiwabon 1845 - 1907. Ymunais a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn 2023.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Trefedigaethau sgwatwyr.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Rwyf wedi ymddeol ar ôl gyrfa fel athro (Ellesmere Port a Newbury), bod yn berchen ar dafarn (Sir Benfro) a chynllunio ac ymarfer digwyddiadau mawr (Gwasanaeth Iechyd Gwladol).
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Dysgu llawer.
Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Dysgu llawer!
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyn o bryd gan fy mod yn astudio'r cyfnod.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Llai, oherwydd fy mhlentyndod hapus yn y gymuned hon.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Canal Boat Diaries ar BBC Four – ymlaciol iawn.
Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Gwylio adar, cerddoriaeth (dwi'n chwarae’r gitâr yn wael iawn), carafanio. Rwyf hefyd yn helpu i redeg amgueddfa lofaol ac yn rhoi sgyrsiau hanes lleol.
Cysylltwch â Vic:
vct24djk@bangor.ac.uk