Teitl y prosiect: 'Landownership Changes In The Lordship Of Gower, 1750-1850'
Ymchwilydd Doethurol: Jeff Childs
Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Lowri Ann Rees
Sefydlwyd arglwyddiaeth Gŵyr yn sgil y goncwest Normanaidd yn yr ardal ddechrau'r ddeuddegfed ganrif ac mae'n dal yn endid ymarferol heddiw. Daeth i gynnwys pedwar ar hugain o blwyfi eglwysig, er mai ffocws daearyddol yr astudiaeth hon fydd Gŵyr Is Coed a oedd yn cynnwys deunaw plwyf Penrhyn Gŵyr, dau blwyf Abertawe a phlwyf Tal-y-bont Llandeilo. Bydd yr ymchwil yn ystyried y tebygrwydd, y cyferbyniadau a'r amrywiaeth sydd yn y rhan hon o'r arglwyddiaeth - yn dopograffig, yn ddaearyddol, yn economaidd, yn wleidyddol, yn ddemograffig, yn ddiwylliannol ac yn grefyddol - a sut y dylanwadodd neu yr effeithiodd y rheini ar berchnogaeth a meddiant tir rhwng 1750 ac 1850.
Yn bennaf trwy ddull astudiaeth achos bydd yn ceisio nodi ac egluro: y newidiadau mewn perchnogaeth tir a ddigwyddodd; y dynameg, penderfynyddion a grymoedd gwaelodol a oedd yn weithredol; sut yr amlygwyd dynameg ac ysgogwyr newid; pwy neu beth oedd yr ysgogiadau - neu yn wir atalyddion - newid; pa mor barhaol neu dros dro oedd newidiadau o'r fath a beth oedd eu heffaith, yn unigol ac ar y cyd. Wrth wneud hynny, ei nod yw llenwi bwlch pwysig yn ein gwybodaeth a'n gwerthusiad o'r pwnc hwn pan gaiff ei gymhwyso i'r rhan hon o dde Cymru.