Jeff Childs

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Cefais fy magu ym Mhontardawe yng nghwm Tawe ac rwyf bellach yn byw ym Mhenarth.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Rwyf yn ymchwilio i newidiadau perchnogaeth tir yn arglwyddiaeth Gŵyr rhwng 1750 a 1850, yn enwedig yr ardal a ddynodwyd gynt yn Gŵyr Is Coed.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Perchnogaeth tir, stadau tiriog, hanes plwyf a chymuned. Dechreuais fy mhroject yn 2021 (rhan amser).

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Astudiais hanes a hanes economaidd yng Ngholeg Polytechnig Manceinion fel myfyriwr israddedig ac wedyn hanes lleol ar lefelau diploma a Meistr gyda Phrifysgol Caerdydd. Roeddwn yn was sifil yn y Swyddfa Gymreig a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn amrywiol is-adrannau polisi. Ar ôl rhoi dau bapur yn nigwyddiadau Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yng Nghaerdydd ac yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, cefais fy nenu at ddod yn ymchwilydd doethurol gyda’r Sefydliad, yn enwedig ar ôl cyhoeddi fy nghyfrol, o’r enw The Parish of Llangyfelach: landed estates, farms and families yn 2018. 

Ymchwilydd Doethurol Jeff o flaen baner ISWE.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Bod yn rhan o griw o’r un anian sy’n archwilio agwedd sy’n cael ei thanbrisio ond sy’n hynod arwyddocaol ac eang ar hanesyddiaeth Cymru.

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Rhoi fy ngwybodaeth, ymchwil a methodolegau hanes lleol blaenorol ar brawf.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Hanes modern, sy'n canolbwyntio ar y cyfnod 1750 i 1850, pan ddaw ffynonellau meintiol newydd cyffrous fel ffurflenni cyfrifwyr y cyfrifiad a dogfennaeth y degwm ar gael yn genedlaethol ac yn gyhoeddus gan ganiatáu ymchwil leol a chymharol ddwfn.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Abertawe, oherwydd ei heclectigiaeth a'i threftadaeth yn ogystal â'r ffaith bod yno genedlaethau o haneswyr.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Swansea’s Royal Institution and Wales’s First Museum (gol. Helen Hallesy gyda Gerald Gabb), wedi'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Chwefror 2024 - mae’n orchestwaith sy'n canolbwyntio ar Sefydliad Brenhinol De Cymru ac Amgueddfa Abertawe ('amgueddfa enwog Dylan Thomas a ddylai fod wedi bod mewn amgueddfa') yn ogystal ag Abertawe ei hun. Gower Revisited (gol. Malcolm a Ruth Ridge), wedi'i gyhoeddi yn 2023 - mae’n gyfrol sy'n dathlu saith deg pump o flynyddoedd o Gymdeithas Gŵyr ac mae’n cynnwys gwledd o ddetholiadau o gyfnodolyn y Gymdeithas, Gower. (Rwyf wedi adolygu'r ddau lyfr ar gyfer Morgannwg, cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Morgannwg). The Origins of Manchester: from Roman conquest to Industrial Revolution gan Alan Kidd, wedi'i gyhoedd gan Carnegie Publishing yn 2023 - cyfrif cryno ond meistrolgar o Fanceinion hyd at 1780. O ran teledu, dwi'n argymell rhaglenni dogfen gwleidyddol PBS America ac o ran blogiau, dwi'n argymell Roath Local History Society

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Ymweld â Manceinion, lle mae 'hanes ymhob man', er gwaethaf ei natur gyflym, sy'n newid yn barhaus. Ditto Lerpwl. Rhoi sgyrsiau i wahanol gymdeithasau a sefydliadau eraill er bod angen rhywfaint o ymddieithrio ar ôl pedair blynedd a deugain! Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys cerdded (ac arwain teithiau cerdded), darllen, cerddoriaeth a gwylio criced byw (rhy brin y dyddiau hyn). Rwyf ar hyn o bryd yn cyd-awduro pedwaredd gyfrol ddarluniadol ar Bontardawe a’r cylch.

Contact Jeff:

jfc21ryy@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?