Yn 2020, ymgymerodd Emma Winstanley, myfyrwraig hanes, ar interniaeth ymchwil gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle gofynnwyd iddi ymateb i’r cwestiwn, ‘Beth sy’n Gymraeg am Gastell Penrhyn?’
Llywiwyd y ffocws hwn gan yr ymdeimlad bod Castell Penrhyn yn aml yn cael ei weld fel adeilad sy'n cynrychioli rhaniad diwylliannol yn hanes a thirwedd Cymru, rhwng y Cymry a’r Saeson, gyda’r Castell a’i berchnogion yn cael eu taflunio’n gyson fel cilfachau ac asiantau ‘seisnigeiddio’ yng nghefn gwlad Gwynedd. Mewn ymateb i’r cyd-destun hwn, gofynnwyd i Emma archwilio’r Castell a’i gasgliadau am enghreifftiau o Gymreictod. Nododd sawl amlygiad o ddiwylliant, iaith a hunaniaeth Gymreig, ond penderfynodd ganolbwyntio ar ddelwedd fawr mewn ffrâm sy'n hongian ger y brif fynedfa gyhoeddus i Gastell Penrhyn.
Mae'r ddelwedd yn dangos Arglwydd Penrhyn ynghyd â Thywysog Cymru ac aelodau eraill o'r teulu brenhinol yn sefyll y tu allan i Gastell Penrhyn. Roedd y Tywysog yn ymweld â gogledd Cymru i fynychu Eisteddfod Caernarfon 1894 ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod y teulu brenhinol yn westeion i’r Arglwydd Penrhyn yng Nghastell Penrhyn. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg arwisgwyd yr Eisteddfod fel colofn bwysig o hunaniaeth a diwylliant Cymreig. Felly, roedd canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng yr achlysur ac ystâd y Penrhyn yn ymddangos yn thema briodol i ddechrau ymchwilio i Gymreictod y safle.
Defnyddiodd Emma erthyglau papur newydd i roi’r ymweliad yn ei gyd-destun. Disgrifiodd papurau Saesneg a Chymraeg frwdfrydedd a phleser mawr y miloedd a leiniodd y strydoedd o Fangor i Gaernarfon ar daith y Tywysog o Gastell Penrhyn i ŵyl yr Eisteddfod yn 1894. Mae'r adroddiadau'n drylwyr, gan gofnodi'n gyffrous bob manylyn o daith y Tywysog, o'r amser y gadawodd y cerbyd brenhinol Gastell Penrhyn hyd at yr ŵyl ei hun. Mae adroddiadau yn sôn am flodau a fflagiau ar hyd y strydoedd o Gaernarfon i Fangor ynghyd â phobl o bob cenhedlaeth a dosbarth, o blant ysgol i ffermwyr, yn dod allan i gael cipolwg ar Dywysog Cymru. Mae maint y brwdfrydedd a'r seremoni a ddisgrifiwyd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth leol yn falch o bresenoldeb y Tywysog. Mae hyn yn cefnogi’r syniad bod y teitl ‘Tywysog Cymru’ yn cael ei ddeall fel arwydd o hunaniaeth Gymreig yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae erthyglau papur newydd cynharach yn dyddio o 1890 yn awgrymu anghytundebau cyn Eisteddfod Bangor y flwyddyn honno. Mae papurau newydd yn adrodd na fynychodd y teulu brenhinol yr Eisteddfod yn 1890 a rhoddwyd y bai ar yr Arglwydd Penrhyn a oedd yn Llywydd yr Eisteddfod y flwyddyn honno. Mae erthygl Gymraeg yn Y Werin o fis Medi 1890 yn portreadu'r Arglwydd Penrhyn mewn goleuni anffafriol; dywed yr awdur ‘his lordship is responsible because the Prince of Wales and his son Duke of Clarence did not honour the Eisteddfod with their presence and refers to Lord Penrhyn as laughable, childish and unworthy of a gentleman of his position’. Darganfuwyd yr erthygl hon eisoes wedi ei chyfieithu i’r Saesneg ac mae’n datgelu bod gŵr o Borthmadog wedi’i gyflogi i gyfieithu erthyglau Cymraeg i’r Arglwydd Penrhyn er mwyn ei gadw’n gyfoes â’r wasg Gymraeg. Mae awdur yr erthygl yn cyfarch y cyfieithydd yn watwarus, gan ddweud wrtho ‘inform his lordship that Bangor Eisteddfod has managed to do without him’.
Roedd yr Arglwydd Penrhyn yn amlwg yn ymwybodol o'r pwysigrwydd a roddwyd i bresenoldeb Tywysog Cymru, ac o'r effaith a gafodd dadl Eisteddfod 1890 ar farn y cyhoedd. Pan gafodd ei benodi’n llywydd yr Eisteddfod am yr eildro yn 1894, anerchodd y torfeydd yn yr ŵyl gydag araith hir a meddylgar a oedd yn amlygu presenoldeb y Tywysog ac yn cyfeirio at hen hanes Cymru. Wrth gyfarch y torfeydd yn Saesneg, mae’r araith yn mynegi teyrngarwch Cymry i’r Goron ac yn cyfleu arwyddocâd a llawenydd y teitl ‘Tywysog Cymru’. Yn ogystal, talodd ei araith lawer o sylw i gariad Cymreig at farddoniaeth a cherddoriaeth ac mae’n honni bod y cariad at y celfyddydau cerddorol wedi’i ‘osod yn yr hen amser’.
Wrth ymweld â gogledd Cymru ar gyfer yr Eisteddfod, bu’r teulu brenhinol hefyd ar ymweliad â Chwarel y Penrhyn ym Methesda, lle mae adroddiadau’n sôn am ‘groeso calonnog’ gan y gweithwyr. Yn debyg iawn i adroddiadau am ei bresenoldeb yn yr Eisteddfod, cyflwynwyd taith y Tywysog a’i ymweliad â Chwarel y Penrhyn yn fanwl. Roedd miloedd o bobl, gan gynnwys gweithwyr a'u teuluoedd, wedi ymgynnull i groesawu aelodau'r teulu brenhinol. Mae disgrifiadau hefyd yn sôn am wragedd a phlant y chwarelwyr yn canu ‘dwy hen emyn, ‘Gwlad ein Tadau’ a’r anthem genedlaethol’. Mae’n amlwg o'r adroddiadau bod rhai yn y chwarel wedi bod yn aros yn eiddgar am yr ymweliad gyda phapurau’n adrodd bod gwaith ffrwydro wedi’i hatal am dri diwrnod er mwyn cynnal sioe i Dywysog Cymru yn ogystal â ffyrdd newydd wedi’u hadeiladu o amgylch yr ardal. Er bod y rhan fwyaf o adroddiadau’n cyflwyno ymateb cadarnhaol a chroesawgar i’r ymweliad brenhinol, mae datganiad bach ar ddiwedd un adroddiad yn darllen ‘There is no truth (our correspondent says) in the report circulated yesterday to the effect that a man had been arrested at Bangor for an attempt to assault the prince'. Dyma’r unig ymateb negyddol i ymweliad y Tywysog.
Daeth mwy o ddadlau ynglŷn â'r Arglwydd Penrhyn a'r Eisteddfod ym 1902. Cynhaliwyd Eisteddfod 1902 ym Mangor a digwyddodd yng nghanol streiciau chwarel y Penrhyn 1900-1903. Mae papurau newydd o'r cyfnod yn adrodd fod Arglwydd Penrhyn wedi penderfynu ymddiswyddo fel Llywydd Eisteddfod 1902; yma gwelwn agweddau amrywiol at y newyddion. Adroddodd y London Kelt am y newyddion yn Gymraeg, gan ddisgrifio ymddiswyddiad yr Arglwydd Penrhyn fel ‘llawenydd mawr i bawb’ ac aiff ymlaen ymhellach i ddweud y byddai ei arglwyddiaeth wedi cael ‘derbyniad anffafriol’ pe bai wedi mynychu. Dywed yr erthygl hefyd fod nifer fawr o chwarelwyr y Penrhyn a’u teuluoedd eisoes wedi datgan na fyddent yn mynychu Eisteddfod Bangor mewn protest. Cadarnheir hyn mewn papur newydd arall, yr Evening Express, sy’n adrodd yn Saesneg, y bydd chwarelwyr yn ‘boicotio’ yr ŵyl.
Daeth Emma i’r casgliad ‘os ydym yn ystyried y syniad bod hunaniaeth Gymreig wedi datblygu a thrawsnewid dros amser, deuwn yn ymwybodol o’r cysylltiadau Cymreig niferus o fewn ac o amgylch Castell Penrhyn’. Mae’r astudiaeth hon yn datgelu cysylltiad parhaus rhwng Castell Penrhyn a thraddodiad yr Eisteddfod i’r ugeinfed ganrif, gan ddangos bod yr Arglwydd Penrhyn wedi chwarae rhan weithredol, neu o leiaf yn cydnabod pwysigrwydd traddodiadau, hanes a diwylliant Cymru. Mae’r ymweliad brenhinol hefyd yn dangos bod y frenhiniaeth yn gyffredinol a theitl ‘Tywysog Cymru’ yn arbennig yn uchel eu parch ac yn cael eu hystyried yn arwydd o hunaniaeth Gymreig.