Teitl y prosiect: 'Britain’s foreshore – time for the Crown Estate to let go, and other matters'
Ymchwilydd Doethurol: Hugh Davis
Goruchwylir gan: Dr Marie Parker-Jones a Dr Gwilym Owen

Pam mae'r blaendraeth yn perthyn i’r Goron? Wel, mewn gwirionedd dim ond 50% sydd. Sut digwyddodd hynny? A yw hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau modern, sef yr “Hawl i Grwydro”? Mae’r gwaith yn ymdrin â Chyfraith Rufain, cyfraith Sacsonaidd, trwy’r Goncwest Normanaidd a’r sefyllfa “prima facie” gyfredol. Beth mae awdurdodaethau eraill yn ei wneud? Sut i gydbwyso hawliau cyfraith breifat â dyheadau’r dyn cyffredin.