Hugh Davis

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Yn wreiddiol o Swydd Hertford, ond roedd caethiwed i ddringo creigiau wedi fy ngorfodi i gyrraedd Eryri o gartref pan oeddwn yn 14 oed. Flwyddyn ar ôl graddio mewn Astudiaethau Busnes a gweithio yn Llundain, fe wnes i roi’r gorau iddi a gweithio'n lleol fel paciwr parseli i gwmni a oedd yn gwneud offer dringo. Ddwy flynedd yn ddiweddarach penderfynais ymbarchuso (ydw i'n clywed wfftio mewn dirmyg?) a phenderfynais ddod yn gyfreithiwr, gan gymhwyso yn 1976! Anghredadwy. Dwi’n dal ym Mangor yn gweithio fel cyfreithiwr.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? “Blaendraeth Prydain – amser i Ystad y Goron ollwng gafael, a materion eraill”. 

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Anodd – dwi'n hoffi meddwl fy mod i’n polymath. Ond nid mathemateg, nac unrhyw wyddorau….

Ymchwilydd Doethurol Hugh o flaen baner ISWE.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Ydych chi'n eistedd yn gyfforddus? Wel, wedi graddio mewn astudiaethau busnes, a gweithio yn Llundain, yn ddringwr creigiau brwd, wedi cael swydd ger Bangor fel paciwr parseli, ddwy flynedd yn ddiweddarach yn meddwl am yrfa o bosib (felly ddim yn ddringwr creigiau gwych wedi'r cyfan….), meddwl y byddwn i'n gyfreithiwr, Rhan I trwy gwrs gohebiaeth, erthyglau am ddwy flynedd (am £3 yr wythnos - rhyfeddol faint o labro adeiladu y gall rhywun ei wneud), yna Rhan II (llwyddo tro cyntaf - brolio) yna gweithio (ac yn dal i wneud) fel cyfreithiwr ym Mangor. Wedi bod yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth (Sifil), yn ddarlithydd rhan amser flynyddoedd yn ôl ac eto yn ddiweddar. O, 39 mlynedd efo’r criw Achub Mynydd, Cymwys fel Notari Cyhoeddus (beth, ‘da chi'n gofyn?), wedi gwneud LLM ar ôl i'm corff fy ngwrthod am ddringo creigiau, a sylweddoli fy mod i'n caru ychydig o'r byd academaidd. Mewn dwy flynedd mi fydda’i wedi cymhwyso ers 50 mlynedd! Ond y sbardun oedd mab â PhD, brawd â PhD, tad a fyddai wedi cael ei PhD yntau petai canser heb gael y gorau arno, merch-yng-nghyfraith D.Phil, ac sydd bellach yn athro cysylltiol yn Rhydychen. Os medran nhw ei wneud, siawns y medraf innau.

 Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn hyfryd! Mae'n bennaf yn llawn o gydweithwyr nad ydynt yn rhy ifanc, felly nid wyf yn cael fy nychryn gan bobl sydd wedi llwyddo’n gymharol ifanc. Mi wnes i landio yno (dwi'n falch o ddweud yn hapus). Mae fy nhraethawd ymchwil yn deillio o frwydr galed gydag Ystad y Goron dros ryw flaendraeth ym Mangor yn rhinwedd fy rôl fel ymddiriedolwr Stad y Penrhyn.  

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Goroesi.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? O na! Pob un ohonynt. Rwyf wrth fy modd ag eglwysi cadeiriol canoloesol a’u hanes cymdeithasol, llu o gerddoriaeth glasurol o Bach i Verdi, oes yr Ymoleuo, gallwn i fynd ymlaen.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Mynyddoedd Eryri, ond yn awr yn arbennig Moel Eilio lle mae llwch fy mab wedi’u gwasgaru.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Nefoedd, na. Gormod! Rwyf wrth fy modd ag eglwysi cadeiriol canoloesol a’u hanes cymdeithasol, llu o gerddoriaeth glasurol o Bach i Verdi, oes yr Oleuedigaeth, gallwn fynd ymlaen.

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Yn y bôn selogyn dringo sy'n methu dringo. Felly teithio, gan fwynhau hanes, bwyd a diwylliant Ewropeaidd (gwraig yn dweud, “efo fi”). Ydw i'n ychwanegu Heddwch y Byd?

Cysylltwch â Hugh:

hgd21kqf@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?